Gwisgwyd i’m iôr gwasgawd maith, 
		
	
		 
| Arfwisg fael
 Un achos lle gellir bod yn sicr fod mael(ys) yn dynodi arfwisg o ddolenni haearn yw’r cywydd gofyn a briodolir i 'Guto Powys' ac a ganwyd i’w ewythr, Siôn Abral o’r Gilwch. Yma gelwir yr arfwisg yn lluryg neu lurig (cerdd 120.16, 20, 48, 66), mael(ys) (18, 54, 62) a chotarmer (120.52) a’i disgrifio fel wybrawl rwyd ‘rhwydwaith awyrol’ (28) a rhidyll aer ‘rhidyll brwydr’ (66). Cyfeirir at ei dur cyfrodedd (50) hefyd, ond ceir y disgrifiad manylaf yn y llinellau canlynol: 
		Gwisgwyd i’m iôr gwasgawd maith,  
		Gwe faelys, da ei gyfeilwaith,  
		Gorau gwisg i ŵr a gaid,  
		Gadwnawg i gadw enaid,  
		Trŵn y gwart rhwng trin a gwyll,  
		Twrn wydr, tyr wayw’n nawdryll.  
		Manawl o beth y’i plethwyd,  
		Mal rhew, a mwynawl ei rhwyd,  
		Maglau a chlymau achlân,  
		Mil filioedd, mael o Felan.  
		Gwisgwyd gorchudd mawr o amgylch fy arglwydd,
		 gwe o faels, da yw ei gydblethiad, y wisg orau y gellid ei chael i ŵr, cadwynog, er mwyn diogelu bywyd, cwmpas y warchodaeth rhwng brwydr a chyfnos, gwydr ar gyfer gorchest, bydd yn torri gwaywffon yn naw dryll. Fe’i plethwyd yn hynod o gysáct, fel rhew, a hyfryd yw ei rwydwaith, yn faglau ac yn glymau i gyd, mil o filoedd, maels o Milan. Mae hyn i gyd yn ymddangos yn addas iawn fel disgrifiad o grys mael, a wneid drwy gysylltu pob cylch bychan o haearn â phedwar cylch arall.[2] Weithau gosodid cylchoedd arbennig o bres, arian neu aur, hyd yn oed, o fewn y mael. Gallent ddangos enw neu dref y gwneuthurwr neu gael eu defnyddio i greu ymyl addurniadol, a hynny efallai’n esbonio cyfeiriad Guto Powys at ymyl euraid yr arfwisg yn y cywydd hwn (cerdd 120.48).[3] Bibliography[1]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002), d.g. mael³, maels², maelys, a ‘The Oxford English Dictionary', www.oed.com, s.v. mail, n.³ 2(a).[2]: C. Blair, European Armour circa 1066 to circa 1700 (London, 1958), 20. [3]: M. Pfaffenbichler, Medieval Craftsmen: Armourers (London, 1992), 59-60, and Blair, European Armour, 170. | 
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru