![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
Ategolion
Roedd gwisgo ategolion yn cwblhau gwisg y cyfnod. Gwisgid gemwaith hardd megis broetshis, breichledau a modrwyau a oedd yn cynnwys gleiniau lliwgar, weithiau o aur neu arian, gan ddynion a merched. Roedd yn ffordd i arddangos cyfoeth a statws cymdeithasol yr unigolyn. Ategolyn angenrheidiol arall i fardd teithiol oedd pyrsau a chanodd Guto’r Glyn ddau gywydd i ddiolch am byrsau a gafodd yn rhoddion gan ei noddwyr: cerdd 58, cerdd 87. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru