GwneuthuriadDatblygodd gwahanol draddodiadau adeiladu mewn gwahanol rannau o Gymru yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar, fel yr eglurodd Peter Smith.[1] Yn y dwyrain a’r Gororau adeiladid tai pren, gan amlaf, gyda fframiau pren ar sylfaen o gerrig, ond yn y gorllewin a ger yr arfordir roedd adeiladau o gerrig yn fwy cyffredin. Rhwng y ddwy ardal hon datblygodd traddodiad o adeiladu tai cyfansawdd a chanddynt fframiau a pharwydydd o bren a muriau allanol o gerrig.
Mae cerddi Guto sy’n canmol Colbrwg, Y Faenor a thŷ Syr Siôn Mechain yn Llandrinio (cerddi 22, 38 a 85) ac sy’n gofyn teils gan Risiart Cyffin ab Ieuan Llwyd (cerdd 61) yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol y diwydiant adeiladu yng Nghymru. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru