![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
ArfwisgoeddRoedd nifer o wahanol fathau o arfwisg yn cael eu gwisgo yn amser Guto’r Glyn. Mae’n debyg y byddai rhai o’i noddwyr a fu’n brwydro yn y Rhyfel Can Mlynedd neu Ryfeloedd y Rhosynnau wedi gwisgo arfwisg lawn o blatiau. Ond roedd arfwisg fael, a wneid o ddolenni haearn bach, cydgysylltiedig, yn parhau i gael ei defnyddio yn y cyfnod hwn a cheid hefyd fathau ysgafnach o arfwisg a oedd yn cyfuno brethyn, canfas neu ledr â phlatiau haearn, er enghraifft y brigawn y canodd Guto gywydd gofyn amdano. Canodd gerdd arall yn gofyn am ryw fath o helm a elwir yn saeled. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru