![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
PensaernïaethRoedd pensaernïaeth tai uchelwyr y bymthegfed ganrif yn drawiadol o grefftus. Y tŷ neuadd oedd y math mwyaf cyffredin: adeilad wedi ei gynllunio'n ofalus a'i strwythuro o fframiau pren amrywiol i adlewyrchu cyfoeth a statws y perchennog. Defnyddid carreg hefyd, yn enwedig mewn tai tŵr a neuaddau llawr-cyntaf.
Gyda chymorth gwaith ymchwil Peter Smith yn ei gyfrol gynhwysfawr, Houses of the Welsh Countryside, gellir gweld bod tai a godwyd mewn gwahanol siroedd yng Nghymru yn cynnwys nodweddion tebyg o ran gwneuthuriad a chynllun pensaernïol.[1] Ar y cyfan, roedd cynllun mewnol tai'r uchelwyr yn eithaf syml ac yn amgylchynu’r neuadd, y brif ystafell yr oedd iddi nodweddion arbennig megis canopi nenlen ac oriel. Ychwanegwyd ystafelloedd eraill hefyd yn y cyfnod hwn ac un newid amlwg oedd cael lle tân a simnai ar un o'r muriau yn hytrach na thân agored yng nghanol llawr y neuadd. Bibliography[1]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988). Gw. hefyd R. Suggett & G. Stevenson, Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru: Introducing Houses of the Welsh Countryside (Aberystwyth & Talybont, 2010). |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru