Dysg a gwybodaeth
Molir yr uchelwyr yn aml am eu gwybodaeth eang, yn enwedig am eu haddysg a’u gwybodaeth o’r gyfraith. Ond ychydig a wyddom am ddysg y Cymry yn y bymthegfed ganrif. Cyfeirir weithiau at ddarllen yng nghartrefi’r noddwyr ac mae’n debyg fod llythrennedd yn rhan bwysig o’u diwylliant. Gan fod chwech o’r ‘pedair camp ar hugain’ yn ymwneud â dysg a gwybodaeth, sef barddoniaeth, canu a chyweirio telyn, darllen Cymraeg, herodraeth a thynnu arfau, canu cywydd gan dant a chanu cywydd pedwar ac acennu, gallwn dybio mai dyma’r math o wybodaeth y disgwylid i uchelwyr ei dysgu ac iddynt dderbyn addysg yn y meysydd hyn yn rhywle yn ystod eu bywydau. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru