Seigiau, gwirodau gwridog, 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
BwydRoedd y darpariaeth o fwyd mewn gwledd yn bwysig iawn i’r beirdd. Cyfeirir at bob math o wahanol fwydydd, fel y bara, y gwahanol fathau o gigoedd, amryfal lysiau a ffrwythau a hefyd y sbeisys a’r perlysiau.
Mae’r beirdd hefyd yn pwysleisio faint o fwyd a weinid mewn gwledd. Byddai’r wledd yn cynnwys sawl pryd neu gwrs gwahanol, fel a welir ar y bwrdd yng Nghochwillan (gw. Ail-lunio Cochwillan.) Gair a ddefnyddir yn aml am ddysglaid o fwyd neu gwrs o fewn y wledd yn y farddoniaeth yw saig neu seigiau. Defnyddir y gair ansodd neu ansawdd hefyd yn yr un modd, weithiau’n golygu ‘gwledd’ yn gyffredinol ac weithiau, yn fwy penodol, ddanteithion y wledd.[1] Cafodd Guto’r Glyn amryw fodd ar ansoddau ‘llawer math o ddanteithion’ (cerdd 97.39) yng ngwledd Sieffrai Cyffin yng nghastell Croesoswallt a disgrifiodd abaty Glyn-y-groes fel Llys rydd ym y sydd, ansoddau - llu dalm ‘Mae i mi lys hael, bwydydd i lu niferus’ (cerdd 113.1). Cafodd hefyd sawl pryd gwahanol ym Mhenrhyn:
Seigiau, gwirodau gwridog, 
Saith gwrs a welais i’th gog. 
prydau, gwirodau cochlyd,
gwelais saith cwrs gan dy gogydd. Bibliography[1]: Am ymdriniaeth fanwl, gw. A.M. Edwards, ‘“Food and Wine for all the World”: Food and Drink in Fifteenth-century Poetry’, yn D.F. Evans, B.J. Lewis ac A. Parry Owen (goln), Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013). |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru