Rhaid fydd i Ddolffin warhau 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
DiodRoedd nifer y cyfeiriadau at wahanol ddiodydd a ddarperid yn y wledd ar gynnydd erbyn y bymthegfed ganrif. Rhennid y prif ddiodydd a geid yn winoedd, medd a chwrw. Roedd y diodydd hyn yn amrywio’n helaeth erbyn y bymthegfed ganrif.
Cedwid y gwinoedd, y medd a’r cwrw mewn amrywiol gasgenni, sef yr hyn a elwir yn dunnell (o’r Saesneg tun), hogsied (o’r Saesneg hogshead) a phib (o’r Saesneg pipe (math o gasgen). O ran y mesur hylifol a oedd yn cael eu cadw yn y casgenni hyn, roedd un dunnell (rhywbeth tebyg o ran maint i gasgen) yn cynnwys dwy bib, a dwy bib yn cynnwys pedair hogsied. Nid diodydd alcoholaidd yn unig a gedwid yn y casgenni hyn gan y cyfeiria Guto’r Glyn hefyd at gadw mêl mewn pib (cerdd 28.27). Sonia am y casgenni hyn hefyd yn ei gywydd sy’n disgrifio ‘Brwydr y beirdd yn erbyn gwin Tomas ap Watgyn’. Yma, defnyddir gwahanol ddiodydd yn drosiadol i gynrychioli milwyr Ffrainc ar un ochr a Thomas, ei feirdd a’i ddatgeiniaid ar yr ochr arall. Ceir sôn am lad pib (poem 47.54), a dywedir:
Rhaid fydd i Ddolffin warhau 
Rhag sawdwyr yr hocsiedau. 
Bydd yn rhaid i’r Dauphin ymdawelu
o flaen milwyr yr hocsiedau. Mae Guto hefyd yn hoff iawn o gyfeirio at yr hyn a elwir yn broesio a oedd yn fenthyciad o’r Saesneg broach.[1] Agor neu dapio casgen o win neu fedd a feddylir gan amlaf. Digwydd hynny ym Mhrysaeddfed, cartref Huw Lewys, yn ôl Guto:
Af i wleddoedd y flwyddyn 
I lys Huw Lewys a’i lyn; 
Broeswin a gaf er brysiaw, 
Broesfedd tref Brysaddfed draw. 
Af ar gyfer gwleddoedd y flwyddyn
i lys Huw Lewys a’i ddiod; caf win o gasgen er mwyn gwneud i mi frysio, medd o gasgen annedd Prysaeddfed acw. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru