![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
HelaRoedd hela yn un o'r gweithgareddau pwysicaf ym mywyd yr uchelwr ac roedd trefn benodol i helfa a’i gwnâi’n weithgaredd seremonïol ac arwyddocaol. Ceir llu o gyfeiriadau at hela yn y drydedd ganrif ar ddeg yng Nghyfraith Hywel Dda.
Roedd amryw greaduriaid yn cael eu hela, ond mae’n debyg mai hela ceirw â chŵn a hela adar â gweilch oedd y gweithgareddau uchaf eu bri. Roedd nifer o reolau ynglŷn â pha bryd oedd yr adeg gywir i hela rhai anifeiliaid, a phwy oedd yn cael hela mewn parciau a fforestydd penodol. Er enghraifft, ymddengys mai tymor hela hyddod yn Lloegr oedd 24 Mehefin hyd 14 Medi; a 14 Medi hyd 2 Chwefror ar gyfer ewigod.[3] Roedd hela y tu allan i’r adegau hyn yn anghyfreithlon. Rhaid cofio hefyd fod fforestydd Cymru wedi eu hen drawsfeddiannu gan y Goron a barwniaid Lloegr erbyn y bymthegfed ganrif. Ceir achosion o Gymry yn derbyn caniatâd i hela mewn fforestydd.[4] Bibliography[1]: W. Linnard, ‘The Nine Huntings: A Re-examination of Y Naw Helwriaeth’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 31 (1984), 119-32.[2]: B.O. Huws, Y Canu Gofyn a Diolch c.1350-c.1630 (Caerdydd, 1998), 65. [3]: R.B. Manning Hunters and Poachers: A Social and Cultural History of Unlawful Hunting in England 1485-1640, (Oxford, 1993), 23. [4]: R. Richards, Cymru’r Oesau Canol (Wrecsam, 1933), 162. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru