GemauFel heddiw, roedd amryw chwaraeon a gemau yn boblogaidd yn amser Guto. Byddai rhai megis gemau bwrdd a chardiau yn cael eu chwarae yn nhai'r uchelwyr, a chwaraeon neu gampau corfforol megis rhedeg, saethu neu fwrw maen trwm yn cael eu harfer yn yr awyr agored. Mae'r beirdd yn hoff iawn o ganmol doniau eu noddwyr wrth feistroli'r campau a'r gemau hyn. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru