Eglwysi
Yn anffodus, ailadeiladwyd llawer o’r eglwysi yn ddiweddarach, er bod ambell eglwys wedi cadw ei ffenestr liw, llawr, neu furlun o gyfnod Guto’r Glyn. Ceir rhai gwrthrychau hefyd megis llestri cymun, cerfluniau addurniadol neu ddelwau Crefyddol (gw. Crogau a delwau). Roedd delw o Grist ar y groes neu’r Forwyn Fair yn hynod o arwyddocaol yn y cyfnod hwn a chanodd nifer o feirdd gerddi i’r delwau hyn yn eu heglwysi plwyf. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru