I dri abad na phrior 
Aredig a hau
Gan ddibynnu ar faint a natur ei dir, tyfai’r amaethwyr amrywiaeth o gnydau megis llysiau, ffrwythau, ffa, grawn, rhyg, gwenith, ceirch a haidd, er mwyn darparu bwyd i’r teulu ac ennill arian. Gwerthid peth o’r cynnyrch mewn ffeiriau a marchnadoedd a byddai’r gweddill yn cael ei storio ar gyfer y gegin, i goginio bara, i fragu cwrw, ac ati. Roedd trin y tir â gofal arbennig yn allweddol i gael y cynnyrch gorau. Profa’r cerddi i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes fod amaethu yn rhan bwysig o fywyd abad yn yr abatai yng Nghymru yn y cyfnod hwn a molir yr abad yn arbennig fel hwsmon da: Ni chad yn eglwys na chôr / Hwsmon well is maen allor ‘Ni chafwyd mewn eglwys na changell / hwsmon gwell islaw maen allor’ (cerdd 112.31-2). Canmolir yn benodol y modd y mae’n sicrhau bod digon o ŷd yn ei storfeydd am dair blynedd:
I dri abad na phrior 
Nid oes dai na’i ŷd ystôr: 
Ŷd ar faes, a deuryw fedd, 
Ŷd o’r blaen o dair blynedd. 
Nid oes i dri abad na phrior ynghyd
y fath dai ag sydd ganddo na’i gyflenwad o ŷd: ŷd ar faes, a dau fath o fedd, ŷd [mewn storfa] ar gyfer tair blynedd i ddod. Gallai felly wynebu cynhaeaf gwael heb ofid. Cyfeiria Guto hefyd at aredig tiroedd yr Abad Dafydd ab Ieuan (cerdd 111.21) ac eto:
Deuryw ytir a dyr eto, 
Draul o fawrIal drwy lafurio, 
Dodi gwedd a gâr, dirio ŷd o’r âr, 
64Dri heiniar draw heno. 
Aredig a wna eto ddau fath o dir ŷd,
cynhaliaeth o Iâl fawr drwy lafurio; caru gosod y wedd a wna, annog ŷd o’r tir âr, tri chnwd draw heno. Mae Guto hefyd yn canmol rheolaeth dda’r Abad Dafydd ar ei goedwigoedd. Pan ddefnyddiodd yr abad goed o fryn Hyrddin, ar bwys y fynachlog, i greu nenfwd hardd i abaty Glyn-y-groes, sicrhaodd fod mes yn cael eu plannu fel bod coed newydd yn tyfu yn eu lle. Mae’n rheolwr da ar ei goedwigoedd, felly, yn sicrhau cyflenwad o goed at anghenion y dyfodol.
Gwnaeth Dafydd (ni bydd heb win) 
Gaead hardd o goed Hyrddin. 
O’r mes a droes i’r maes draw 
Mae gwŷdd yn magu iddaw. 
Gwnaeth Dafydd (ni fydd byth heb win)
do hardd o goed Hyrddin. O’r mes a wasgarodd i’r maes draw mae coed yn tyfu iddo. Nid oes angen tybio bod yr abad yn gweithio yn y meysydd ei hunan, yn hytrach, pwrpas cyfeiriadau fel hyn yw pwysleisio pa mor ddibynadwy ac effeithiol yw noddwr yn darparu cynhaliaeth gyson a digonol i’w bobl drwy reolaeth dda ar ei dir. Wrth ganmol Maredudd ab Ifan Fychan o Gedewain canmola Guto’r ffaith ei fod yn llafurio tir y fro ac â rhagddo i awgrymu na fyddai’r un cwys o Bowys heb ŷd (cerdd 39.16-18).
Roedd defnyddio geirfa amaethyddol mewn cerddi mawl a marwnad hefyd yn nodweddiadol o ganu’r cyfnod.[1] Gelwir darn o dir mewn cae wedi ei aredig yn grwn a byddai’r tir hwnnw’n aros yn segur am gyfnod cyn ei hau. Defnyddiodd Guto’r ddelwedd hon o’r tir âr yn segur ac yna’n dwyn ffrwyth i gyfleu natur ei berthynas â’i noddwr Dafydd ap Tomas o Flaen-tren (cerdd 13.31 a llinellau 32 a 35). Dro arall, defnyddir y ddelwedd o allor y Grog mewn eglwys fel grwn a heuir â dagrau’r galarwyr am Siôn ap Madog Pilstwn:
 llef oer y llafuriwn, 
Allawr y Grog yw lle’r grwn. 
Er bâr Duw a bwrw dial 
Y bu’r bedd a’r gaib a’r bâl. 
Cynnar y gwna’r ddaearen 
Cyflehau ieuanc, fal hen. 
roeddwn yn llafurio â chri ddiflas,
allor y Grog yw’r fan lle mae’r grwn. Oherwydd dicter Duw a bwrw dial y bu’r bedd a’r gaib a’r rhaw. Yn gynnar y gwna’r ddaear osod yr ifanc ynddi, fel yr hen. Dengys hyn mor gyfarwydd oedd Guto’r Glyn â defnyddio delweddau amaethyddol i ddisgrifio amrywiol bethau, a gellir cymharu’r cywydd enwog i’r llafurwr gan Iolo Goch yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.[2] Bibliography[1]: F.G. Payne, ‘Cwysi o Foliant Cyson’, Y Llenor, xxvi (1946-7), 3-24.[2]: D. Johnston, Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd rhif XXVIII. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru