Daly tŷ, gwneuthur adail teg, 
Traddodiad a diwylliant
Mae cyfeiriadau’r beirdd at yr hyn a oedd yn digwydd yn yr abatai yn ystod y bymthegfed ganrif yn werthfawr iawn. Erbyn y cyfnod hwn, roedd yr abatai bellach yn rhan o fywyd y wlad o’u hamgylch, ac wrth iddynt agor eu drysau i’r beirdd câi’r rheini gyfle i ymgydnabod ag arferion, traddodiadau a diwylliant y mynachlogydd. Mae’r beirdd yn hoff iawn o gyfeirio at ddysg eu noddwyr (gw. Diddordebau’r Uchelwyr: Dysg a gwybodaeth) a gellir tybio bod gan yr abatai hyn eu casgliadau eu hunain o lyfrau neu lawysgrifau wedi eu storio yn eu llyfrgelloedd. Sonia Guto’r Glyn am y ddysg a’r llyfrau da yn abaty Glyn-y-groes (cerdd 112.29, cerdd 113.14) ac ategir hyn hefyd gan feirdd eraill, megis Gutun Owain. Gellir derbyn y disgrifiad o’r Abad Tomas o Amwythig yn awgrym ei fod yn addysgu’r rhai a oedd yn preswylio yn abaty Amwythig:
Daly tŷ, gwneuthur adail teg, 
Dysgu’r mydr, dasg ramadeg. 
Cynnal tŷ, gwneud adeilad hardd,
dysgu mydryddiaeth, gwaith gramadeg. Lladin oedd prif iaith dysg y cyfnod ac mae’n bur debyg mai trwy’r iaith Ladin yr oedd yr Abad Tomas yn dysgu, a hynny gyda llyfrau am ramadeg Ladin yn abaty Amwythig. Felly hefyd yr Abad Dafydd ab Owain wrth iddo ddysgu’r ramadeg yn abaty Ystrad Marchell (cerdd 115.23-4). Trafod pynciau o’r fath, mae’n debyg, a wnâi abad y fynachlog gyda’i ymwelwyr, a dichon fod sgyrsiau am hanes, diwylliant a chrefydd yn ddigon cyffredin hefyd rhwng abad a’i gyfeillion.[1] Bibliography[1]: Ymhellach gw. K. Stöber, 'The Cistercians and the Bards - Praise and Patronage in Fifteenth-Century Wales', yn B.J. Lewis, A. Parry Owen ac D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013). |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru