Gwent alarch a gân telyn 
OfferynnauY delyn Y delyn yw’r prif offeryn y cyfeirir ati yn y farddoniaeth. Canodd Iolo Goch gerdd ddychan i’r delyn rawn[1] a cheir ambell gerdd hefyd sy’n gofyn am delyn yn rhodd gan y beirdd.[2]
Nodwedd arbennig ar delynau o Gymru yn y cyfnod hwn oedd mai tannau wedi eu gwneud o rawn, sef blew ceffyl, oedd arnynt yn hytrach na thannau lledr neu o goluddion defaid. Roedd enwau ar rai tannau hefyd. Enw’r tant tenau a oedd wedi ei leoli agosaf at y telynor oedd y cildant, a’r enw ar y tant mwyaf trwchus, a oedd bellaf oddi wrtho, oedd y llorfdant. Byddai’r cildant yn gwneud sain uchel a main a byddai’r llorfdant yn gwneud sain isel a dwfn.[3] Roedd y sain a gynhyrchid gan y delyn yn wahanol iawn i’r hyn sy’n gyfarwydd i ni heddiw ac yn llawer llai meddal. Gall hyn fod oherwydd maint, siâp a gwneuthuriad telyn ganoloesol, ond yn bennaf, ceid sain mwy caled oherwydd dull y telynor o ganu’r delyn. Dull o ganu’r tannau â’r bysedd, y bodiau a’r ewinedd oedd hwn, sef dull a oedd hefyd yn boblogaidd yn Iwerddon.[4] Y crwth Yn ail i’r delyn ystyrir y crwth fel offeryn traddodiadol y Cymry yn yr Oesoedd Canol. Offeryn siâp petryal ac arno chwe llinyn a’r rheini’n cael eu cynnal heb bont oedd y crwth cynnar. Ceid fersiwn â thri thant hefyd (fersiwn cynharach o bosibl).
Cyfeirir at y crwth yng Nghyfraith Hywel Dda ac yn y ‘Trioedd Cerdd’ lle nodir: ‘Teir prifgerd tant ysyd, nyt amgen: kerd grwth, kerd delyn, a cherd timpan’.[5] Cyplysir y crwth gyda’r delyn yn aml yn y farddoniaeth ac mae’n bur debyg y cenid y ddau offeryn gyda’i gilydd weithiau, er mai’n amlwg nad oedd i’r crwth yr un statws â’r delyn. Fel yn achos y telynor a’r bardd, roedd y berthynas rhwng y crythor a’r bardd yn un agos iawn, ac mae’n bosibl fod cerddi’n cael eu perfformio i gyfeiliant y crwth fel y delyn.[6] Mewn rhestr a luniwyd c.1500 gan Gutun Owain, enwir llawer o grythorion, nifer ohonynt yn arddel y ‘Crythor’ fel ail enw, megis Ieuan Grythor a raddiodd yn eisteddfod Caerwys yn 1523.[7] Felly hefyd Hywel Grythor, gŵr a ddychenir mewn cyfres o englynion a briodolir i Guto’r Glyn (ond nas enwir yn rhestr Gutun Owain), cerdd 121. Mae’r gerdd hon yn perthyn i ddosbarth o gerddi a ganwyd i grythorion sy’n tueddu i roi darlun anffafriol o’r proffesiwn, fel y gyfres englynion a luniwyd i'r crythor Edward Sirc ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg: Os cras yw'r crwth, dagrwth dôn, / Crasach yw'r geirie creision.[8] Gwyddom fod rhai beirdd yn grythorion hefyd megis Edward Maelor, ac mae Llywelyn ap Gutun yn cael ei ddisgrifio fel ‘chwaraewr ar y crwth’ gan Robert Griffith.[9] Offerynnau eraill Roedd meddu ar ddawn gerddorol yn rhywbeth i’w ganmol yn yr Oesoedd Canol ac weithiau cyfeirir at allu’r noddwyr i ganu offeryn cerdd, fel y gwna Guto wrth ganmol Rhisiart Herbert o Golbrwg:
Gwent alarch a gân telyn 
Ac a rydd aur am gerdd ynn. 
Ni bydd ef, myn bedd Iefan, 
Heb rôt a luwt, Herbart lân. 
Alarch Gwent sy’n canu’r delyn
ac sy’n rhoi aur i ni am gerdd. Nid yw byth, yn enw bedd Ieuan, heb rôt a liwt, Herbert teg.
Disgrifir un offeryn yn fanwl gan Guto'r Glyn, sef y corn hela y mae'n ei erchi gan Sieffrai Cyffin ar ran Siôn Eutun, gw. cerdd 99. Defnyddid y corn hwn wrth hela (gw. offer hela) ac wrth ei ddisgrifio medd Guto fod ei sain fel y bwmbart (o’r Saesneg ‘bombard’): math o offeryn chwyth a oedd â sain tebyg i’r trwmped ac sy’n boblogaidd heddiw yn Llydaw:
Bwmbart i ŵr a’i bumbys, 
Brig llef hyd ar barc y llys, 
bwmbart i ŵr a’i bum bys,
uchafbwynt llef ar draws parc y llys, Defnyddid offerynnau taro fel drymiau llaw hefyd (sef o bosibl tympan, math o ddrwm bychan). Ond yr 'offeryn taro' mwyaf nodweddiadol ac unigryw i Gymru oedd y pastwn. Math o ffon hir oedd y pastwn a byddai’r datgeiniad yn ei daro ar y llawr i acennu'r gynghanedd wrth lafarganu’r farddoniaeth. Mae hanes y tywysog Gruffudd ap Cynan (c.1055-1137) yn cyfeirio at ddatgeiniad fel datgeinydd pen pastwn a oedd yn cyfeilio iddo ef ei hun â’r offeryn taro hwn.[14] Mae’r cyfuniad hwn o daro’r pastwn a datgan barddoniaeth wedi ei ail-greu hefyd gan gerddorion modern, sef y grŵp Datgeiniaeth. Am ychydig o’u perfformiadau gw. www.projects.beyondtext.ac.uk Bibliography[1]: D.R. Johnston, Iolo Goch: The Poems, Welsh Classics Series (Llandysul, 1993), 130-132; A.O.H. Jarman, ‘Telyn a Chrwth’, (1961), Llên Cymru 6, 154-75.[2]: N. A Jones & E.H. Rheinallt (goln), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth, 1995), cerdd rhif 11; Rh. Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005), cerdd rhif 12. [3]: S. Harper, Music in Welsh Culture before 1650: a study of the Principal Sources (Aldershot, 2007), 130, a S. Harper 'Y Cefndir Cerddorol' yn www.dafyddapgwilym.net [4: A.O.H. Jarman, ‘Telyn a Chrwth’, Llên Cymru, 6 (1961), 166. [5]: G.J. Williams & E.J. Jones (goln), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934), 57. [6]: D. Johnston, Llên yr Uchelwyr (Caerdydd, 2005), 46. [7]: D. Huws, ‘Rhestr Gutun Owain o Wŷr wrth Gerdd’, Dwned 10 (2004), 79-88. [8]: B. Miles, `“Pwt ar Frys” neu “Ffarwél y Crythor” ', Canu Gwerin, xiii (1990), 36. [9]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Llywelyn ap Gutun (Aberystwyth, 2007), 4-5. [10]: The Oxford English Dictionary s.v. rote, n.². [11]: The Oxford English Dictionary s.v. lute, n.¹. [12]: D.F. Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), 12.54. [13]: ‘Geiriadur Prifysgol Cymru’ 1107 d.g. dwmsel. [14]: S. Harper, Music in Welsh Culture before 1650: a study of the Principal Sources (Aldershot, 2007), 15. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru