Ymlidiwynt, canwynt y cyrn, 
Offer hela
Roedd pob math o offer gan yr helwyr yn y cyfnod hwn. Portreedir yr heliwr, ei osgordd a’i offer hela mewn nifer o ddarluniau canoloesol, a'r enwocaf, o bosibl, ar gasgliad o dapestrïau a elwir ‘The Devonshire Hunting Tapestries’ a wnaethpwyd c.1430-50, efallai yn Arras, ac sydd erbyn hyn yn rhan o gasgliadau’r Victoria and Albert Museum. Nid oes gennym yma yng Nghymru unrhyw dapestri cain tebyg ond mae darluniau o olygfeydd hela wedi goroesi mewn cyfryngau eraill, megis y pren cerfiedig yn Eglwys y Santes Melangell ym Mhennant Melangell sy'n cynnwys llun o heliwr, ei arfau a'i gorn hela. At hynny, mae diddordeb noddwyr a beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn, mewn hela yn golygu bod gennym gyfoeth o dystiolaeth lenyddol. Y corn hela Prif rôl y corn mewn helfa oedd cyfathrebu: anfonid negeseuon at eraill trwy ei chwythu, a gallai ei ganu ar adegau anghywir arwain at ddryswch ac oedi ymysg yr helwyr eraill. Defnyddid corn hela i ganu cyfuniadau o nodau hir, nodau byr a seibiannau gyda’r un traw i bob nodyn.[1] Cenid gwahanol gyfuniadau i gyfleu gwahanol negeseuon i helwyr eraill, megis casglu’r helwyr ynghyd, annog y cŵn i redeg, cyhoeddi i ba gyfeiriad a thros ba dirwedd yr oeddynt yn mynd neu ddynodi unrhyw lwyddiant yn yr helfa. Cyfansoddodd Guto’r Glyn gywydd i ofyn am gorn hela gan Sieffrai Cyffin o Groesoswallt ar ran Siôn Eutun o Barc Eutun (gw. Diddordebau uchelwyr: Cerddoriaeth: Y corn hela). Crybwyllir cyrn hela hefyd yn ei gywydd dychan sy’n delweddu Dafydd ab Edmwnd fel ewig neu iwrch:
Ymlidiwynt, canwynt y cyrn, 
Iwrch difwyn ni chyrch defyrn. 
Ymlidient, canent eu cyrn,
yr iwrch annymunol nad yw’n cyrchu tafarnau. Gallai hela fod yn weithgaredd swnllyd iawn. Yn aml, clywid nid yn unig ganu’r cyrn ond hefyd gyfarth yr helgwn a bloeddiau’r helwyr eu hunain. Credir bod y gair Ffrangeg huer (‘bloeddio mewn rhyfel neu wrth hela’) yn cynrychioli ymgais i efelychu sŵn canu corn â’r llais dynol, ac mai o’r gair hwn y tardda’r gair Saesneg ‘hue’, a geir amlaf yn yr ymadrodd ‘hue and cry’.[2] Gellir cymharu’r cri Hw-a a grybwyllir mewn cerdd o waith Guto’r Glyn sy’n disgrifio milwyr Mathau Goch o Faelor yn ‘hela’ y cadfridog Ffrengig, La Hire:
Heliant goed a heolydd, 
(‘Hw-a La Her!’) fal hely hydd. 
heliant mewn coed a heolydd,
(‘Hw-a La Hire!’) fel hela hydd. Y gyllell hela Defnyddid mathau arbennig o gyllyll, neu setiau o gyllyll, wrth hela, a chyfansoddodd Guto’r Glyn gywydd i ofyn am un o’r rhain gan Gruffudd ap Rhys o Iâl ar ran Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Defnyddir nifer o wahanol eiriau am y gyllell gan gynnwys baslart (cerdd 76.74), cyllell geirw (41), gwaetgnaif ‘ cyllell waedlyd’ (37), wtgnaiff, o’r Saesneg ‘woodknife’ (37) a ’sgïen ‘cyllell, cleddyf byr’ (39). Yn ogystal â’r brif gyllell, mae’n eglur fod dwy gyllell lai wedi’u cario yn yr un wain:
Yn dair y mynnwn eu dwyn: 
Y ddu fawr a’r ddwy forwyn; 
Trillafn yn torri allan, 
Tri hydd ac yntwy a’u rhan. 
Tair ac un yn yr unwain, 
Trindod yr hyddod yw’r rhain; 
Yn dair gyda’i gilydd y mynnwn eu cario:
yr un ddu fawr a’r ddwy forwyn; tri llafn yn torri allan, tri hydd, hwy fydd yn eu darnu. Tair ac un yn yr un wain, trindod yr hyddod yw’r rhain; Ceir hefyd y syniad fod y brif gyllell yn feichiog a chyfeirir at y ddwy arall fel merched ac egin ‘blagur’, gan fynd mor bell â chanmol y tair fel trindod (41-2, 61-74). Mae tystiolaeth archeolegol a darluniau o Loegr a’r cyfandir yn awgrymu bod cynnwys cyllell neu gyllyll ychwanegol mewn gwain yn eithaf cyffredin. Defnyddid y cyllyll hyn wrth fwyta yn aml, ond yn achos setiau hela fel yr un yng ngherdd Guto y prif bwrpas oedd darparu amrediad o lafnau o feintiau gwahanol i gael eu defnyddio at wahanol ddibenion yn ystod y broses o ddarnio’r anifail.[3] Yn ogystal â chrybwyll hyddod, a ‘rhannu’ hyddod, yn y llinellau a ddyfynnir uchod, mae Guto’n cyfeirio mewn mannau eraill at dorri cig (llinellau 28, 31, 40 a 73), yn galw’r brif gyllell yn elynes hydd (32) ac yn crybwyll ei defnydd gyda phlocyn torri, hyd yn oed:
Yn llem ar ei hysgemydd, 
Yn hir i gymynu hydd. 
yn finiog ar ei blocyn torri,
yn hir i ddarnio hydd. Yn ogystal â chael ei galw’n hir yn benodol (52), awgrymir hyd y gyllell gan y gair llath (31), gan y cyfeiriad at fesuro dwy gyllell yn erbyn ei gilydd (35) a chan linellau 53-4: Ar glun fy mhen cun y’i cair, / A disgyn hyd ei esgair ‘Fe’i ceir ar glun fy mhrif arglwydd / yn estyn i lawr hyd ei goes.’ At hynny, ymddengys fod y gyllell yn ddigon llydan i gael ei chymharu ag asgell (43) ac adain eryr (57), ac yn ddigon miniog neu bigfain i gael ei chymharu ag ysgell (‘ysgallen’, 41). Mae’r llinellau canlynol yn dangos bod gan ei llafn gefn ‘tew’, trwm (hynny yw, ei fod yn unfiniog) a’i fod yn grwm:
Tenau ’n ei chorff, tew ’n ei chil, 
A’i gogwydd ar ei gwegil, 
Yn grom iawn, yn grymanaidd, 
Yn blyg fal ewin y blaidd, 
tenau yw ei chorff, tew yw ei chefn,
ac iddi ogwydd ar ei gwegil, yn grwm iawn fel crwman, wedi crymu fel ewin blaidd, Gallai’r gogwydd yn y darn hwn gyfeirio naill ai at grymedd y llafn neu at ongl amlwg ar ei gefn, nodwedd a welir yn aml ar gyllyll hela ac ar gyllyll unfiniog yn gyffredinol.[4] Ymddengys fod haen o gorn ar garn y gyllell (60), ac mae cyfeiriad Guto ati fel ysgell groesgam (41) yn awgrymu bod ganddi freichiau gard crwm neu anghymesur.[5] Crybwyllir disgleirdeb y gyllell nifer o weithiau, gan ddweud ei bod yn unlliw’r haul (50) a’i chymharu â gwydr a drych (43-4, 59-60). Nid yw Guto’n crybwyll cyllyll yn aml yn ei gerddi eraill, er ei fod yn cyfeirio at Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais fel dagr y drin ‘dager maes y gad’ (cerdd 14.31).[6] (Aberystwyth, 2013).] Mae’n debyg mai’r hyn oedd ganddo mewn golwg oedd dagr syth â llafn cul, o’r math a wisgid ar y gwregys yn aml ac efallai’n debyg i enghraifft fawr, daufiniog a ddarganfuwyd yn Abertawe.[7] Arfau eraill Pan oedd carw wedi diffygio a throi ar ei ymlidwyr ar ôl cael ei erlid gan helwyr a’u cŵn, byddai’n cael ei ladd fel arfer â chyllell, cleddyf, gwaywffon neu fwa a saeth, os nad oedd y cŵn wedi ei ladd eisoes. Dull arall, arbennig o effeithlon, o hela ceirw oedd defnyddio cŵn i’w gyrru tuag at helwyr a oedd yn aros gyda bwâu a saethau mewn man a drefnid ymlaen llaw, a defnyddid bwâu a saethau hefyd ar gyfer hela ysglyfaeth lai, yn enwedig adar. Yn ôl Guto’r Glyn, roedd angen corn hela ar Siôn Eutun i’w ddefnyddio gyda bwa gŵr (cerdd 99.26), a sonia beirdd eraill hefyd am saethu â bwa wrth hela. Dywed Rhys Goch Eryri, yn ei gerdd ofyn am gyllell, ei fod yn arfer hela ceirw â bwa a milgi buan,[8] ac mae Dafydd ap Gwilym yn cyfeirio at saethu rhygeirw sythynt (‘saethu ceirw gwychion, unionsyth eu hynt’) yn y gerdd ‘Basaleg’, sy’n canmol Ifor Hael ('Dafydd ap Gwilyn.net', 14.36.) Yn ei gywydd dychan i Ddafydd ab Edmwnd disgrifia Guto helfa ffigurol, ac yntau’n ‘saethu’ cywyddau at y bardd arall:
Gollyngais a saethais i 
Ddoe i Ddacyn ddeuddeci: 
 saith gywydd y saethwyd, 
Ac yno y llas y gown llwyd. 
Gollyngais ddoe ddeuddeg ci ar ôl Dacyn,
a saethais: saethwyd ef â saith cywydd, a lladdwyd yno’r gŵn llwyd. Am gyfeiriadau Guto at saethu targedau a saethu mewn rhyfel gw. Maes y gad: Arfau: Bwâu a saethau. Bibliography[1]: J. Cummins, The Art of Medieval Hunting: The Hound and the Hawk (London, 1988), 160-71.[2]: Cummins, The Art of Medieval Hunting, 113, 169, a ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. hue, v.2 a n.2 [3]: M. de Neergaard, ‘The Use of Knives, Shears, Scissors and Scabbards’, yn J. Cowgill, M. de Neergaard and N. Griffiths, Knives and Scabbards (London, 2000), 55, a gw. rhifau 403, 414, 417, 418, 432, 464, 491; H.L. Blackmore, Hunting Weapons (London 1971), 13-14; 51-9, a H.L. Peterson, Daggers and Fighting Knives of the Western World from the Stone Age until 1900 (New York, 1968), 29, 31, 34-5, 43. [4]: Blackmore, Hunting Weapons, 12, 50-1, a Cowgill et al., Knives and Scabbards, rhifau 86-7. [5]: Gw. Blackmore, Hunting Weapons, 12-13, 52, a phlatiau 10-12. [6]: Gw. ymhellach J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds.), [footnote:‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales [7]: D. Stewart, ‘A Medieval Dagger and an Iron Missile Point in Swansea Museum’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 31 (1984), 314-18. [8]: D.F. Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), 5.11 |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru