Od arweddaf d’arwyddion, 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
BathodynnauRoedd bathodynnau yn system lai ffurfiol o arwyddion na’r arfbeisiau, ac fe’u defnyddid i ddangos aelodaeth o grŵp megis gweision neu osgordd gŵr pwerus neu filisia tref, neu i ddangos teyrngarwch i garfan wleidyddol neu frenhinlin.[1] Weithiau roedd bathodynnau’n tarddu o arfbeisiau ond nid oedd hyn yn wir bob tro, a gallai grŵp neu arglwydd penodol ddefnyddio nifer o wahanol fathodynnau. Caent eu gwisgo ar hetiau neu eu gwnïo ar siacedi yn aml, ond fe’u defnyddid i addurno tai ac amryw wrthrychau eraill yn ogystal. Mae’n bosibl mai bathodyn oedd gan Guto’r Glyn mewn golwg wrth gyfeirio at wisgo ‘arfau’ mewn cerdd o fawl i Syr Wiliam ap Tomas o Raglan:
Od arweddaf d’arwyddion, 
Ai gwaeth, ’y mhennaeth, ym hon 
No dwyn obry gwedy gwin 
Ar fy mron arfau ’mrenin? 
Os wyf yn dwyn dy arwyddion,
ai gwaeth i mi, fy mhennaeth, yw hon na dwyn ar ôl gwin arfau fy mrenin isod ar fy mron? Fodd bynnag, nid yw hyn yn profi bod Guto wedi gwisgo’r fath arwyddion neu arfau ar ei ddillad mewn gwirionedd, am y gallai fod wedi defnyddio’r termau hyn yn ffigurol i gyfeirio at nawdd hael Syr Wiliam. Cyfeiria Guto at fathodynnau pedwar o elynion y brenin Edward IV yn ei gerdd i ‘Annog Edward IV i adfer trefn yng Nghymru’:
Y Wiber Goch biau’r gis: 
Arth, Ci, Alarch, Porthcwlis. 
Y Wiber Goch biau’r ergyd:
Arth, Ci, Alarch, Porthcwlis. Roedd yr arth yn un o fathodynnau ieirll Warwick a’r ci’n fathodyn a ddefnyddid gan y Talbotiaid, ieirll Amwythig (math o gi hela oedd ‘talbot’). Roedd yr alarch yn fathodyn Lancastraidd a ddefnyddid gan Edward, tywysog Cymru, mab Harri VI, a’r porthcwlis yn fathodyn teulu Beaufort (gw. ymhellach Maes y Gad: Rhyfeloedd y Rhosynnau).[2] O ran y Wiber Goch, yr ymddengys iddi gynrychioli Edward VI ei hun, fe all mai’r ddraig goch yw hon, sef arwydd traddodiadol y Cymry/Brythoniaid ac arwydd Cadwaladr, brenin olaf y Brythoniaid yn ôl traddodiad. Gallai Guto fod wedi cysylltu Edward â'r ddraig goch i bwysleisio ei ddisgynyddiaeth o Gadwaladr ac, felly, ei hawl i’r Goron.[3] Peth digon naturiol oedd bod y beirdd yn mabwysiadu arwyddion y bathodynnau i’w defnyddio yn eu cerddi, yn enwedig yn achos y rhai a ddangosai anifeiliaid. Roedd creaduriaid megis llewod a gweilch wedi bod yn bwysig yn y canu mawl ers canrifoedd fel trosiadau i gyfleu nodweddion dynol megis dewrder neu ffyrnigrwydd. Yn y canu darogan, hefyd, ac yn fwy eang mewn llenyddiaeth broffwydol Gymraeg a Lladin, defnyddid amryw greaduriaid i gynrychioli pobl bwysig. Yn aml, ymddengys fod ystyr ddwbl i gyfeiriadau’r beirdd. Er enghraifft, gallai’r ci yn y darn a ddyfynnwyd uchod (cerdd 29.34) gael ei ddeall nid yn unig fel arwydd y Talbotiaid ond hefyd yn symbol o'r brenin anghyfiawn, yn ôl dehongliad yr Iorciaid o’r proffwydoliaethau.[4] Yn yr un gerdd cyfeiria Guto at Edward IV fel tarw, sef anifail a oedd yn cael ei grybwyll yn aml mewn proffwydoliaethau yn ogystal â bod yn arwydd a ddefnyddiai Edward fel un o’i fathodynnau (cerdd 29.1).[5] Crybwyllir y tarw eto mewn cerdd arall sy’n disgrifio Syr Water Herbert fel Trysor y Tarw a’r Rhosyn (cerdd 27.34), a’r Rhosyn yn cynrychioli bathodyn arall a ddefnyddiai Edward, sef y rhosyn gwyn Iorcaidd. Roedd un o hoff fathodynnau eraill Edward IV yn cyfuno ‘haul tanbaid Iorc’ â rhosyn gwyn Iorc i greu rose-en-soleil (yn llythrennol ‘rhosyn yn yr haul’), a’r rhosyn wedi ei amgylchynu gan belydrau’r haul.[6] Crybwyllir hwn yng ngherdd Guto i Syr Rosier Cinast o'r Cnwcin, ynghyd â chyfeiriad arall at arth ieirll Warwick a’r ffon rag (‘ragged staff’) a oedd yn fathodyn arall o’u heiddo (câi’r ddau arwydd hwn, hefyd, eu cyfuno weithiau i greu un bathodyn):
Ni ddug ef, pan ddôi gyfarth, 
Na ffon rag na phen yr arth; 
Dwyn rhos, blodeuyn yr haf, 
Dwyn haul a wnâi’r dyn haelaf. 
Ni wisgodd ef, pan aeth yn frwydr,
na ffon garpiog na phen yr arth; gwisgo rhosyn, blodeuyn yr haf, gwisgo haul a wnâi’r dyn mwyaf urddasol. Roedd Rhisiart III, brawd iau Edward, hefyd yn defnyddio bathodyn y rhosyn gwyn, ynghyd â baedd gwyn fel bathodyn personol. Cyfeiria Guto ato fel ‘baedd’ ddwywaith, mewn perthynas â brwydr Bosworth yn y ddau achos. Crybwyllir rhaid y baedd ‘awr angen y baedd’ mewn cerdd o fawl i Siôn Edward o Blasnewydd a’i wraig Gwenhwyfar (cerdd 107.51), a chyfeirir ato fel y baedd wrth ddisgrifio ei farwolaeth, mewn cerdd sy’n canmol Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais:
Cwncwerodd y Cing Harri 
Y maes drwy nerth ein meistr ni: 
Lladd Eingl, llaw ddiangen, 
Lladd y baedd, eilliodd ei ben, 
A Syr Rys mal sŷr aesawr 
Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr. 
Enillodd y Brenin Harri
y frwydr drwy nerth ein harglwydd ni: lladd Saeson, llaw atebol, lladd y baedd, siafiodd ei ben, a Syr Rhys fel sêr ar darian â’r waywffon yn eu plith ar farch mawr. Yn sgil darganfod ysgerbwd Rhisiart yn 2012 ymddengys fod yr ymadrodd ‘siafio ei ben’ yn y gerdd hon yn adlewyrchu natur rhai o’r anafiadau i’w benglog, gw. The search for Richard III Mae’n bosibl y gellid cysylltu hyn, hefyd, â’r arfer o eillio’r gwrych oddi ar ben baedd cyn ei goginio. (Am y bathodynnau gw. ymhellach British Museum: the collection database gan chwilio am ‘livery badge’.) Bibliography[1]: R. Jones, Knight: The Warrior and World of Chivalry (Oxford, 2011), 168-9, a S. Friar (ed.), A New Dictionary of Heraldry (London, 1987), 40-1.[2]: A. Ailes, ‘Heraldry in Medieval England: Symbols of Politics and Propaganda’, P. Coss and M. Keen (eds.), Heraldry, Pageantry and Social Display in Medieval England (Woodbridge, 2002), 83-104 (96); T. Wise, Medieval Heraldry (London, 1980), 21-2, a C. Gravett, Knight: Noble Warrior of England 1200-1600 (Oxford, 2008), 146. [3]: J. Hughes, Arthurian Myths and Alchemy: The Kingship of Edward IV (Stroud, 2002), 1313, ac A.R. Allan, ‘Political Propaganda Employed by the House of York in England in the Mid-fifteenth Century, 1450-71’ (Ph.D. Cymru (Abertawe), 1981), 409. [4]: Allan, ‘Political Propaganda’, 222, 410. [5]: Hughes, Arthurian Myths and Alchemy, 140, 144, ac A.C. Fox-Davies, Heraldic Badges (London, 1907), 97. [6]: Fox-Davies, Heraldic Badges, 52 a ffig. 16. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru