Yn y Bala bu Elen 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
YsbytaiNid oes amheuaeth nad i’r abatai yr âi Guto’r Glyn i dderbyn cysur neu ryw fath o wellhad. I’r tai Sistersaidd yn bennaf yr âi y rhan fwyaf o gleifion ac fe ymddengys fod yno yr adnoddau priodol i gynnig gwellhad, boed hwnnw’n wellhad duwiol neu’n un meddyginiaethol (gw. e.e. cerdd 111.6). Er enghraifft, gwyddys bod yr abatai’n rhoi cryn dipyn o sylw i fanteision perlysiau a bwydydd, ac fel arfer yr oedd rhan o ardd y fynachlog yn cael ei neilltuo at dyfu llysiau rhinweddol (gw. Traddodiad a Diwylliant). Ni cheir llawer o dystiolaeth am ysbytai yng Nghymru yn y cyfnod hwn. Yn wir, defnydd ffigurol a wna’r bardd o’r gair ysbyty gan amlaf i bwysleisio lletygarwch y noddwr (e.e. cerdd 42.30). Ond gwyddys bod rhai mannau yng Nghymru lle roedd ysbytai wedi eu sefydlu gan yr urdd grefyddol filwrol, Ysbytwyr Sant Ioan, neu Farchogion Ifan, yn y canrifoedd blaenorol. Gofalu am bererinion oedd prif bwrpas yr ‘ysbytai’ hyn ac nid cynnig triniaethau o reidrwydd. Ceid un gynt yn Ysbyty Ifan yn sir Ddinbych ac yng Ngwanas ger Dolgellau. Math arall o ysbyty oedd y clafdy a adeiladwyd yn gyntaf ar gyfer cleifion a oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf (gw. Heintiau). Perthyn i’r abatai a wna nifer o’r rhain. Mewn trefi ceid hefyd elusendai a oedd yn cynnig llety i gleifion. Mae’n bosibl mai at fath o elusendy yn nhref y Bala ym Meirionnydd y cyfeiria Guto’r Glyn wrth sôn am y gofal tyner a dderbyniodd yno gan Elen ferch Hywel o’r Nannau. Wrth ei moli, meddai:
Yn y Bala bu Elen 
Yn torri haint ar wŷr hen, 
Yn taflu arian danaf 
Mewn gwely ym a mi’n glaf. 
Iach weithian a chywoethawg 
Wyf o’i rhodd i fyw yrhawg. 
Yn y Bala bu Elen
yn lleddfu afiechyd oedd ar hen wŷr, yn taflu arian oddi tanaf yn fy ngwely, a minnau’n glaf. Rwy’n iach ac yn gyfoethog bellach oherwydd ei rhodd i fyw am amser hir eto. Ni wyddom y stori y tu ôl i’r sylw hwn, ond awgryma’r bardd iddo dderbyn elusengarwch gan Elen yn y Bala pan oedd yn glaf ac i hithau ‘daflu arian’ tuag ato. Roedd cynnig gwellhad i gleifion yn rhan o ddelwedd uchelwraig yn y cyfnod hwn. Nid oedd y wraig o reidrwydd yn gwybod sut i’w gwella - byddai hynny’n aml yn nwylo’r meddyg . Yn hytrach, roedd disgwyl i’r wraig gynnig gofal caredig i’r claf a sicrhau bod digon o fwyd a diodydd ar gael i’w atgyfnerthu. <<<Triniaethau >>>Crefydd ac iacháu |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru