Tŷ neuaddTai neuadd heb amddiffyniad oedd y mwyafrif o'r cartrefi a godwyd yng Nghymru yn ystod y bymthegfed ganrif. Roedd i'r tŷ neuadd un brif ystafell fawr a honno'n agored i'r to (gw. Pensaernïaeth: Cynllun). Rhannwyd y gwahanol fathau o dai neuadd yn dri dosbarth: • y tŷ neuadd sylweddol gyda thair uned neu fwy; • y tŷ neuadd cyffredin a oedd hefyd â mwy nag un uned ond ar raddfa tipyn yn llai; • y tŷ neuadd un ystafell. Gan amlaf, roedd y tri math hyn yn adlewyrchu statws cymdeithasol y perchennog. Perthynai'r math cyntaf i uchelwr cyfoethog a oedd wedi derbyn statws uchel gan y Goron neu a oedd yn ymwneud â swyddogaethau pwysig dan y brenin. Perthynai'r ail i uchelwr a oedd hefyd yn swyddog pwysig yn ei ardal, neu a oedd wedi ennill neu etifeddu tiroedd sylweddol, a’r trydydd i uchelwr neu dirfeddiannwr â chyfoeth cymedrol.[1] O ran cartrefi noddwyr Guto’r Glyn, gwyddom fod Cochwillan yn dŷ neuadd sylweddol ac mae hynny’n cyd-fynd â statws ei berchennog, Wiliam ap Gruffudd. Roedd rhai o gartrefi’r esgobion hefyd yn dai sylweddol, megis Plas yr Esgob ym Mangor, ac ymddengys y gellir profi bod Lleweni ger Dinbych hefyd yn dŷ neuadd yn yr Oesoedd Canol.[2] Ond tystiolaeth y cerddi’n unig sydd gennym yn brawf fod rhai o gartrefi’r noddwyr yn dai neuadd. Awgryma Guto fod y Faenor yn Aberriw (cerdd 38) a Moeliwrch yn Llansilin (cerdd 85) yn dai neuadd sylweddol; y ddau wedi eu hailadeiladu’n ddiweddarach ond ar safle’r hen dŷ neuadd. Roedd y mwyafrif o dai neuadd y bymthegfed ganrif â’r neuadd ar y llawr gwaelod, ond roedd rhai tai â’r neuadd ar y llawr cyntaf a hynny'n nodweddiadol o dde-orllewin Cymru.[3] Ceir ambell eithriad, fodd bynnag, gyda Llys Llaneurgain yn Llaneurgain, a’r Tŷ Gwyn yn Abermo, ail gartref Gruffudd Fychan ap Gruffudd, yn enghreifftiau prin o dai neuadd llawr cyntaf yng ngogledd Cymru. Ymddengys hefyd fod Bodychen ym Môn wedi cynnwys y brif ystafell ar y llawr cyntaf. Y tai y mae gennym leiaf o wybodaeth amdanynt yn y cyfnod hwn yw'r tai neuadd cyffredin, sef ffermdai a bythynnod y ffermwyr a’r tenantiaid, gan fod y ffermdai tlotaf a’r anheddau bach i gyd wedi diflannu.[4] Fodd bynnag, mae’n debyg mai tŷ neuadd gyda beudy yn y pen isaf a gysylltid â’r dosbarth gweithiol, a'r mwyafrif ohonynt yn dai hirion a’r anifeiliaid a’r bobl yn byw o dan yr un to. Bibliography[1]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1988), 38.[2]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1988), 100. [3]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1988), 21-22. [4]: E. Wiliam, Y Bwthyn Cymreig, Arferion Adeiladu Tlodion y Gymru Wledig, 1750-1900 (CBHC, 2010), 47-48. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru