Gwe gerrig yw ei guras, 
Gwydr lliwRoedd gwydr lliw yn addurn prin iawn yn y bymthegfed ganrif ac fe’i ceid mewn ffenestri yn yr abatai a’r eglwysi ac mewn rhai tai sylweddol. Cyn defnyddio gwydr mewn ffenestri, cedwid y gwynt draw a’r golau i mewn drwy ddefnyddio caeadau ar y ffenestri di-wydr.[1] Felly, roedd defnyddio gwydr mewn ffenestri - a gwydr lliw yn arbennig - yn cynnig moethusrwydd newydd: cynhesrwydd o fewn y neuadd ynghŷd ag addurn lliwgar.
Arferid mewnforio gwydr i Brydain o ganolfannau cynhyrchiol fel Normandi, y Rheindir a Fenis.[2] Gan ei fod yn ddeunydd mor fregus, tameidiau yn unig o wydr canoloesol cynnar sydd wedi goroesi mewn rhai ffenestri eglwysig (am wydr lliw canoloesol gw. Gwydr Lliw yng Nghymru). Fodd bynnag, o edrych ar faint a siâp y gwagle o fewn muriau abatai fel abaty Glyn-y-groes ac abaty Tyndryn, mae’n hawdd dychmygu sut y byddai ffenestri lliw hardd yn edrych yn ystod oes Guto’r Glyn. Cyfeiria Guto at wydr yn abaty Ystrad-fflur, Gwnaeth gyfrestri Gwydr Ffenestri (cerdd 8.57), ac yn abaty Glyn-y-groes:
Gwe gerrig yw ei guras, 
Gwydr a’r plwm yw godre’r plas. 
Gwead o gerrig yw ei lurig,
gwydr a’r plwm yw ymylon y plas. Yn ôl un traddodiad, cafodd gwydr a oedd unwaith yng Nglyn-y-groes ei drosglwyddo i un o’r tai ger yr abaty yn ystod diddymiad y mynachlogydd.
O ran siâp, roedd ffenestri gwydr lliw y tai yn debyg iawn i’r ffenestri mewn eglwysi cyfoes, yn cynnwys paneli a oedd yn ffurfio’n fwa ar y brig. O fewn y paneli unigol, roedd darnau bach o wydr wedi eu rhoi at ei gilydd gan ddefnyddio stribedi o blwm i greu patrymau geometrig syml neu ddyluniadau mwy cymhleth. Ni ellir bod yn sicr pryd y daeth gwydr yn gyffredin mewn cartrefi preifat. Mae Enid Roberts o’r farn fod disgrifiad Iolo Goch o gartref Owain Glyndŵr yn Sycharth yn awgrymu bod gwydr lliw yno yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.[3] Byddai hyn yn rhywbeth hynod o werthfawr ac yn amlygu’r statws uchaf. Mae Guto’r Glyn yn disgrifio cartref Dafydd Cyffin ab Iolyn yn Llangedwyn fel Y llwyn gwydr yn Llangedwyn (cerdd 94.1), sydd o bosibl yn awgrymu bod yno wydr. Mae maint y ffenestr fawr yng Nghochwillan yn awgrymu bod yno rywfaint o wydr lliw hefyd, a disgrifir y gwydr yng Ngholbrwg fwy nac unwaith gan Guto:
Elment ym fal maen Tomas 
Ydiw’r plwm a’r gwydr a’r plas 
Elfen i fi fel maen Tomas
yw’r plwm a’r gwydr a’r plas Roedd y delweddau ar wydr lliw yn amrywio cryn dipyn. Mewn cartrefi seciwlar roedd delweddau herodrol yn boblogaidd, megis arfbais y teulu neu amrywiad ar ffigwr a gysylltid ag ach y perchennog. Mewn adeiladau crefyddol roedd delweddau Beiblaidd a rhai’r seintiau yn gyffredin iawn. Yn achlysurol ceid delweddau cyfoes o unigolion o bwys, megis noddwr y ffenestr. Ffenestr o ddiddordeb arbennig yw’r un yn Eglwys Sant Cadwaladr yn Eglwys Llangadwaladr, Ynys Môn, sy’n dyddio’n rhannol i c.1490. Un o noddwyr Guto’r Glyn, Meurig ap Llywelyn oedd noddwr y ffenestr ac mae ef a’i deulu wedi eu darlunio ar y ffenestr. Bibliography[1]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 39-40.[2]: R. Marks, Stained Glass in England during the Middle Ages (Abingdon, 1993), 30-31. [3]: E. Roberts, ‘Tŷ pren glân mewn top bryn glas’, Transactions of the Denbighshire Historical Society, 22, (1973), 12-47. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru