A gwych allor Gwchwillan 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
Y lle tân
A gwych allor Gwchwillan 
Ac aelwyd teg i gael tân; 
Y mae deuwres i ’mdiro: 
Ei goed o’r glyn gyda’r glo. 
ac allor wych Cochwillan
ac aelwyd deg i gael tân; mae dau fath o wres ar gyfer ymdwymo: ei goed o’r glyn ynghyd â’r glo.
I lys Huw Lewys a’i lawr 
Y dôi lanw i delyniawr, 
A thybio, er clwyfo clêr, 
Y dôi lif hyd y lwfer. 
I lys a llawr Huw Lewys
y deuai llanw yn ôl telynor, a thybio y deuai llif hyd y simnai er mwyn clwyfo clêr. Tra’n holi pam roedd rhai uchelwyr Cymru’n ffafrio simnai lwfer yn hytrach na’r lle tân diweddaraf, awgryma Enid Roberts fod y simnai newydd yn rhoi llai o wres na’r hen simnai lwfer.[3] Boed yn hen aelwyd neu’n un newydd, roedd tanllwyth o dân yn arwydd amlwg o letygarwch yn ôl y beirdd ac roedd cyfeirio at y mwg i’w weld o bell yn ffordd i bwysleisio hynny. Mae Guto, er enghraifft, yn honni bod mwg y Faenor ym Mhowys i’w weld o Fôn a Chaerllion (cerdd 38.43). Bibliography[1]: E. Wiliam, ‘Yr Aelwyd: The Architectural Development of the Hearth in Wales’, Folk Life, 16.[2]: P.Smith, Houses of the Welsh Countryside (Cardiff, 1975 & 1988), 39. [3]: E. Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd (Cyhoeddiadau Barddas, 1986). |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru