Euro’i wregis cyn mis Mai, 
CleddyfauRoedd cleddyfau yn arfau pwysig drwy’r Oesoedd Canol, a chaent eu defnyddio nid yn unig gan filwyr ond hefyd yn fwy cyffredinol ar gyfer hunanamddiffyn. Roedd cleddyfau’r bymthegfed ganrif yn anhyblyg ac yn daprog fel arfer, gyda phwyntiau miniog a chaled fel y gallent drywanu rhwng platiau arfwisg.[1] Roedd y rhan fwyaf o faint cymedrol, ond roedd hefyd rai cleddyfau mawr iawn a’u carnau wedi eu hestyn fel y gellid defnyddio’r ddwy law i daro ergyd. Defnyddid cleddyfau at ddibenion seremonïol yn aml ac roedd iddynt arwyddocâd crefyddol, hyd yn oed, a atgyfnerthid gan ffurf y carn a oedd yn debyg i groes. Ceir nifer o gyfeiriadau gan y beirdd at noddwyr yn derbyn cleddyf wedi ei addurno ag aur wrth gael eu hurddo’n farchogion, megis yng nghywydd Guto i Syr Rosier Cinaston o’r Cnwcin:
Euro’i wregis cyn mis Mai, 
Euro’i gledd a ryglyddai. 
Haeddai euro’i wregys cyn mis Mai,
ac euro’i gledd. Crybwyllir cledd neu gleddyf yn bur aml yng ngherddi Guto. Mae nifer o’r cyfeiriadau hyn yn rhai ffigurol, a’r cleddyf yn cynrychioli’r noddwr ei hun, fel yn achos cywydd Guto i Ddafydd Mathau o Landaf: Agoriad wyd ar Gaerdyf / A’i chlo addwyn a’i chleddyf (cerdd 17.9-10). Mewn cerddi eraill ceir cleddyf yn symboleiddio doniau milwrol noddwr. Yn ei gywydd i Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, cyfeiria Guto at wyargledd sias y noddwr, sef ei ‘gleddyf gwaedlyd mewn brwydr’ (cerdd 78.2), a syniad cyffredin ymhlith y beirdd oedd bod cleddyf yn ennill clod i’w berchennog, fel yn achos cerdd Guto i Phylib ap Gwilym Llwyd o Drefgunter:
Dawn i’m eryr dwyn mawredd, 
A dwyn clod o dynnu cledd, 
mae gan fy eryr y ddawn o ddwyn ysblander,
a dwyn canmoliaeth o dynnu cleddyf, Cyfeiria Guto at ei gleddyf ei hun mewn nifer o gerddi. Wrth ateb dychan Llywelyn ap Gutun cyhuddodd y bardd arall o chwennych ei glog a’i gledd (cerdd 65.40), ac yn ei gerdd i ddiolch i Risiart Cyffin, deon Bangor, am bwrs mae’n crybwyll y ffaith fod y pwrs yn cael ei wisgo uwchben ei gleddyf (cerdd 58.56). Yn yr un modd, dywed Guto yn ei gerdd i ddiolch am fwcled ei fod yn gwisgo’r darian fach hon ar wain neu garn ei gleddyf (cerdd 110.50). Defnyddid cleddyfau a bwcledi gyda’i gilydd yn aml, felly mae’n ddigon naturiol fod cleddyf Guto yn cael ei grybwyll nifer o weithiau yn y gerdd hon - dywed, hyd yn oed, y byddai’n hoffi cael y ddau arf wedi’u cerfio ar ei garreg fedd (cerdd 110.63-6). Mae defnydd Guto o’r geiriau byr gledd ac ysgïen (gair a ddefnyddid am gyllell neu gleddyf byr) yn awgrymu bod yr arf hwn yn gymharol fach ac ysgafn (cerdd 110.43 a 59). Roedd cleddyfau ysgafn yn cael eu gwisgo’n aml yn y cyfnod hwn fel ategolion ‘pob dydd’ ar gyfer hunan-amddiffyniad ac fel symbolau o statws, felly nid yw’n syndod fod gan Guto arf o’r fath. Mae’n bosibl hefyd ei fod wedi ymladd â chleddyf yn ystod ei wasanaeth milwrol yn Ffrainc (gw. Guto’r Glyn), fel y gwnâi saethwyr proffesiynol eraill.[2] (Seiliwyd y drafodaeth uchod ar yr ymdriniaeth fanylach yn: J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2013).) Bibliography[1]: K. DeVries, Medieval Military Technology (Hadleigh, 1992), 24-5, ac E. Oakeshott (1964), The Sword in the Age of Chivalry (Woodbridge, 1964).[2]: A. Curry, Agincourt: A New History (3rd edition, Stroud, 2010), 71 and 255; A. Curry, ‘Guns and Goddams: was there a military revolution in Lancastrian Normandy 1415-50’, Journal of Medieval Military History, 8 (Woodbridge, 2010), 171-88 (179-80), ac A.W. Boardman, The Medieval Soldier in the Wars of the Roses (Stroud, 1998), 136-7. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru