Dyn traws fûm yn dwyn tros fôr 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
Arfwisg blâtErbyn amser Guto’r Glyn roedd technoleg arfwisgoedd wedi datblygu fel y gellid cael gwisg gyfan o blatiau i amddiffyn pob rhan o’r corff.[1] Enwir nifer o wahanol ddarnau o’r arfwisg mewn cywydd gan Guto sy’n gofyn am saeled (math o helm) gan Wiliam Rodn o Holt ar ran Dafydd Brwnffild o Fers:
Dyn traws fûm yn dwyn tros fôr 
Dur Melan i dir Maelor, 
Clòs harnais, fyclau seirnial, 
Cwmplid a welid o Iâl, 
Curas a pholrwn cywrain, 
Garbras a dwy fwmbras fain, 
Dwy gawntled a gorsied gên 
A besgus rhag pob asgen, 
A phâr cadarn lèg-harnais 
A’r traed fal chwarterau’r ais, 
A phob metel o Felan 
O dri thwyts rhwng dŵr a thân. 
Bûm yn ŵr cryf yn cludo
dur o Filan dros fôr i dir Maelor, harnais caeedig a chyflawn y gellid ei weld o Iâl, byclau offer, curas a pholrwn cywrain, garbras a dwy fwmbras fain, dwy gawntled a gorsied gên a besgus yn erbyn pob niwed, a phâr cadarn o lèg-harneisiau a’r traed fel chwarterau’r asennau, a phob metel o Filan yn sgil tri chyffyrddiad rhwng dŵr a thân. Enwir naw gwahanol ddarn o’r arfwisg:[2] • curas (‘cuirass’ yn Saesneg) i ddiogelu rhan uchaf y corff (llinell 5); • polrwn (‘pauldron) i amddiffyn yr ysgwydd (5); • garbras (‘gardbrace’), plât ychwanegol a oedd yn gysylltiedig â’r polrwn (6);[3] • fwmbras (‘vambrace’) i amddiffyn y fraich (6); • gawntled (‘gauntlet’) a wisgid am y llaw a’r arddwrn (7); • gorsied (‘gorget’) i amddiffyn y gwddf (7); • besgus (‘besague’ or ‘besagew’), plât a wisgid wrth y gesail (8); • lèg-harnais (‘leg-harness) i amddiffyn y goes (9); • arfwisg gymalog (‘sabatons’) a wisgid am y traed (10). Mae’r un darn (llinell 3) yn cyfeirio at y byclau a ddefnyddid i gysylltu gwahanol ddarnau o blât â’i gilydd ac yn defnyddio’r term harnais am y wisg gyfan. Cyfeirir at greu’r platiau yn llinell 12, O dri thwyts rhwng dŵr a thân ‘yn sgil tri chyffyrddiad rhwng dŵr a thân’. Awgryma hyn fod Guto yn ymwybodol fod dŵr yn cael ei ddefnyddio i oeri’r dur poeth er mwyn ei galedu (proses a elwir yn ‘quenching’ yn Saesneg).[4] Er bod arfwisgoedd yn cael eu cynhyrchu ar draws Ewrop, roedd y canolfannau cynhyrchu pwysicaf yn ne’r Almaen ac yng ngogledd yr Eidal (yn enwedig Milan a Brescia). Yn y farddoniaeth cyfeirir yn bur aml at Felan (‘Milan’) mewn cysylltiad â dur, arfau neu arfwisg, a gwna Guto hyn ddwywaith yn y darn a ddyfynnir uchod (llinellau 2 ac 11). Ni ddefnyddid y gair Melan yn llythrennol bob tro, er hynny; gallai hefyd gyfeirio’n fwy llac at bethau a wneid o ddur (o ansawdd da).[5] Mae cyfeiriadau at arfwisg mewn rhai o gerddi eraill Guto hefyd. Crybwyllir curas yn ei gywydd moliant sy’n dathlu urddo Syr Rosier Cinast o’r Cnwcin yn farchog:
Gwarae â’i wayw a’i guras 
Y bu’r gŵr a bwrw ei gas. 
Chwarae â’i waywffon a’i guras
y bu’r rhyfelwr a bwrw ei elyn. Mae’n amhosibl fod yn sicr pa fath o arfwisg sydd gan Guto mewn golwg yma. Er y gallai curas gyfeirio yn benodol at arfwisg blât ar gyfer rhan uchaf y corff a oedd yn cynnwys brestblad a phlât cefn ynghyd, mae’n debyg y gallai hefyd ddynodi’r brestblad yn unig, ac mae’n bosibl ei fod wedi ei ddefnyddio yn ehangach, hyd yn oed, i gyfeirio at amryw fathau o arfwisg ar gyfer y corff (fel yn achos y Saesneg ‘cuirass’).[6] Cyfeiria Guto mewn tair cerdd wahanol at ddwyfronneg neu frestblad, sef darn o arfwisg blât a amddiffynnai du blaen y corff o’r frest hyd at y canol. Defnyddia Guto’r gair brestblad, gair benthyg o’r Saesneg ‘breastplate’, mewn cerdd ddychan (cerdd 67.25), ac ystyr debyg sydd i frest mewn cerdd i Domas ap Watgyn, Bras Domas mewn brest ymwan ‘Tomas praff mewn dwyfronneg ymladd’ (cerdd 4.67), ac i’r brest dur yn ei gerdd ofyn am frigawn (cerdd 98.44). Mae’r gerdd am y brigawn yn crybwyll r(h)est, hefyd, sef math o wanas ar frestblad a ddefnyddid i helpu cynnal gwaywffon a’i hatal rhag neidio’n ôl wrth i ddau farchog ymwan.[7] Ceir cyfeiriad arall at y nodwedd hon mewn cerdd a ganodd Guto i Fathau Goch o Faelor:
Pan fu ymgyrchu gorchest 
Ym min Rhôn a’i wayw mewn rhest, 
Pan fu gornest trwy ymladd
ger Rouen a’i waywffon mewn rest ar ei arfwisg, Defnyddia Guto dermau eraill, mwy cyffredinol am arfwisg, sef llurig (cerdd 41.46) a phais (e.e. cerdd 63.19, 73.46, 98.25), a’r ddau yn gallu dynodi amryw fathau o arfwisg ar gyfer rhan uchaf y corff.[8] Roedd gan y gair mael(y)s hefyd fwy nag un ystyr, gw. arfwisg fael. Bibliography[1]: C. Blair, European Armour circa 1066 to circa 1700 (London, 1958), 77-111, a K. DeVries and R.D. Smith, Medieval Military Technology (2nd edition, Toronto, 2012), 78-85.[2]: Gw. diffiniadau’r gwahanol eiriau yn Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002) a Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraffad, Caerdydd, 2003- ), a D. Edge and J.M. Paddock, Arms and Armor of the Medieval Knight (London, 1996), 113 (diagram) a 183-9 (geirfa). [3]: Blair, European Armour, 97, 113, ac Edge and Paddock, Arms and Armour, 184. [4]: M. Pfaffenbichler, Medieval Craftsmen: Armourers (London, 1992), 62-4. [5]: Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. melan¹, malen¹. Am gyfeiriadau Guto at Felan (a Brescia, o bosibl), gw. cerdd 1.27, 31, cerdd 3.25, cerdd 73.2, 11. [6]: Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. curas, a ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. cuirass. [7]: Blair, European Armour, 61, a DeVries and Smith, Medieval Military Technology, 77. [8]: Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. llurig, llurug a pais¹ (e). |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru