Abad o gariad, egorir – ei byrth, 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
Crogau a delwauRoedd hi’n arferol cael crogau neu ddelwau o Grist ar y groes yn yr eglwysi a chanodd nifer o feirdd gerddi i’r delwau hyn (arfera’r beirdd y gair crog i gyfeirio atynt). Yn gyffredinol, roedd crogau yn cael eu lleoli uwchben yr allor, sef y canolbwynt ar gyfer gweinyddu’r Offeren a man mwyaf cysegredig yr eglwys. Boed yn ddelwau o bren cerfiedig, o wydr - o bosibl mewn ffenestr liw uwchben yr allor - neu o faen, roedd delw o Grist ar y groes yn weladwy iawn er mwyn i’r addolwyr ei weld ar yr un pryd ag y byddent yn dathlu’r Cymun.[1]
Canodd Guto’r Glyn gywydd i’r Grog yn eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaer (cerdd 69), gwrthrych defosiwn enwog iawn yn ystod y bymthegfed ganrif a canodd nifer o feirdd iddynt.[2] Disgrifir hi fel Y Grog a’i phedwargwyr grym ‘y Grog a’i phedwar gŵr grymus’, (cerdd 69.57) gan Guto’r Glyn, sef y pedwar efengylydd mae’n debyg (Mathew, Marc, Luc a Ioan). Mae’n bosibl fod delw o grog mewn eglwys a gysylltir â theulu’r Pilstyniaid gan fod Guto’n disgrifio’r crys ar y grog mewn cerdd i un o’r teulu (cerdd 72.5), a chyfeiria hefyd o bosibl at grog yn yr eglwys yn Wrecsam:
Abad o gariad, egorir – ei byrth, 
A borthai bedeirsir: 
Y grog sy ’m mhall Gwrecsam hir 
20A’i catwo yn y coetir! 
Abad a roddai gynhaliaeth
i bedair sir trwy gariad, agorir ei ddorau: boed i’r grog sydd dan fantell Wrecsam bell ei amddiffyn yn y tir coediog! Roedd eglwysi’r abatai hefyd yn cynnwys crogau ac mae Guto’n cyfeirio at grog arbennig iawn yn Abaty Glyn-y-groes (gw. nodyn 59, cerdd 118). Yn wir, mae’n debyg i ddarnau o’r grog hon gael eu darganfod ym Mhlasypentre ger Trefor.[3] I gyd-fynd â’r crogau, roedd dwy gannwyll yn cael eu cynnau ar yr allor a defnyddia’r beirdd y gair tapr a cwyr i gyfeirio atynt. Roedd tapr cwyr fyrddwn ‘lliaws o ganhwyllau cwyr’ (cerdd 8.5) yn Abaty Ystrad Fflur yn ôl y bardd ac roedd canhwyllau cwyr ymysg pethau eraill yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor yn ystod cyfnod Rhisiart Cyffin, deon Bangor:
Cweirio y mae y côr moel 
Capten Dwynwen a Deinioel, 
Cario gwŷdd cerrig iddaw, 
Cwyr a chlych cair uwch ei law. 
Mae capten Dwynwen a Deiniol
yn atgyweirio’r gangell noeth, cario pren adeiladu ar ei gyfer, ceir cwyr a chlychau uwchben ei law. Roedd ffigurau crefyddol eraill hefyd yn cael eu delweddu mewn eglwysi megis seintiau, y Drindod a’r Ysbryd Glân, a’r Forwyn Fair.[4] Bibliography[1]: A. Vallance, English Church Screens: Being Great Roods Screenwork and Rood-lofts of Parish Churches in England and Wales (London, 1936).[2]: Ar y grog hon a’i chefndir, gw. B.J. Lewis, (2005), Welsh Poetry and English Pilgrimage: Gruffudd ap Maredudd and the Rood of Chester (Aberystwyth, 2005); M. Paul Bryant-Quinn (gol.) Gwaith Ieuan Brydydd Hir, (Aberystwyth, 2000), 148-50 ac R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006) 133-4. [3]: G. Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation (1976, Cardiff), 355. [4]: P. Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003), 166-8. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru