Curad aur y côr od aeth, 
		
	
		 
| Gwŷr eglwysigYn offeiriaid ac yn abadau, roedd gwŷr eglwysig y cyfnod yn hael iawn eu nawdd i’r beirdd. Arfer cyffredin oedd cyfeirio at offeiriad fel ‘syr’ os nad oedd ganddo radd prifysgol ac os nad oedd yn perthyn i esgobaeth arbennig, megis esgobaeth Llanelwy neu Dyddewi. Mae’n debyg mai dyna gefndir Syr Rhys, bardd-offeiriad a fu’n dadlau gyda Guto mewn cerddi dychan (cerdd 101, cerdd 101a). Felly hefyd Syr Bened ap Hywel o Gorwen. Yn ei farwnad i Syr Bened, mae Guto’n cyfeirio ato fel curad: 
		Curad aur y côr od aeth,  
		Corwen, gwae ni rhag hiraeth!  
		Er pan aeth, gwaeth ydyw’r gwŷr,  
		A phrinnach offerenwyr.  
		Os yw curad ardderchog eglwys Corwen
		 wedi mynd, gwae ni rhag hiraeth! Er pan aeth, gwaeth eu byd yw’r gwŷr, a phrinnach yw’r offeiriaid. Y curad oedd yr enw ar un sydd â gofal bugeiliol dros eneidiau neu, yn fwy penodol, offeiriad neu berson y plwyf (‘curate’ yn Saesneg).[1] Ceir termau eraill hefyd am wŷr eglwysig yn y farddoniaeth. Yr enw ar ŵr eglwysig o radd uchel, megis esgob neu archesgob, oedd prelad.[2] Fe’i defnyddid hefyd am abad neu brior tŷ crefydd, ac yn achlysurol am offeiriad neu ŵr eglwysig arall (gw. cerdd 70.24). Defnyddia Guto hefyd y term micar .../ sienral, sef benthyciad o’r Saesneg ‘vicar general’, swyddog esgobol neu glerigwr (cerdd 58.33-4). Yn achlysurol, fe gyfeirir at yr offeiriad yn gweinyddu’r offeren, megis Syr Wiliam, offeiriad Merthyr Tudful. Yn ei foliant iddo meddai Guto: 
		Ei gywydd beunydd o’i ben,  
		Eiriau ffwrm, yw’r efferen.  
		Ei gywydd sy’n dod bob dydd o’i enau
		 yw’r offeren, geiriau yn ôl ffurf benodol. 
 I weinyddu’r Offeren byddai’r offeiriad yn gwisgo gwisg go arbennig, sef casul. Gwisg lac, ddilewys a oedd yn hynod addurnedig oedd y casul ac fe’i gwisgid ar gyfer gwasanaeth yr offeren yn unig gan mai’r swrplis a wisgid ar gyfer gwasanaethau llai ffurfiol. Cawn ddisgrifiad manwl gan Lewys Glyn Cothi o wisg ficer ar y Sul, sef casul Syr Hywel ab Ieuan, ficer Darowain.[3] Gellir cymharu’r disgrifiad o’r gasul arbennig sydd wedi goroesi o’r unfed ganrif ar bymtheg ac sydd ar gadw yn eglwys Babyddol y Forwyn Fair a San Mihangel, Y Fenni, sir Fynwy.[4] Os nad oedd yr offeiriad yn gwasanaethu, roedd disgwyl iddo wisgo gwisg laes a choler o hyd, fel y nodwyd gan Guto wrth iddo gymharu rhai pethau i wisg offeiriad (cerdd 77, cerdd 100). Roedd gan yr esgobion lifrai penodol hefyd a defnyddir cyfeiriadau at eu gwisgoedd euraid yn gyson i ddisgrifio gwrthrychau eraill (cerdd 53.54, cerdd 94.35-6, cerdd 94.34). Ond y gwrthrychau hynny a oedd yn rhan o’r wisg a ddisgrifir gan amlaf, yn arbennig y cap a’r fagl: dyma ddau wrthrych sydd i’w gweld hyd heddiw yn rhan o wisg esgob. Weithiau, roedd gan wŷr eglwysig laswyrau yn crogi o wregys am eu dillad ac roedd gwisgo modrwyau aur a chadwyni hefyd yn rhan o’u gwisg ar achlysurau arbennig. Dibynnai gwisg yr abad ar yr urdd y perthynai iddi. Y disgrifiad gorau o wisg abad yw hwnnw o’r Abad Dafydd yn ei lifrai: 
		Arglwyddwalch o ŵr gloywddu  
		Â’r fagl aur a fagai lu;  
		Eglwyswr yn y tŵr teg  
		Ac ail Asa Eglwyseg;  
		Edn i Grist a Duw ’n ei grys,  
		A drych aberth drwy’i chwebys.  
		pendefig o ŵr disglair a du ei wallt
		 â’r fagl aur a ofalai am lu; offeiriad yn y tŵr hardd ac ail Asa i Eglwyseg; aderyn yn ei grys i Grist a Duw, a chwyd bara’r aberth â’i chwe bys. Bibliography[1]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002), d.g. curad; ‘The Oxford English Dictionary’, www.oed.com, s.v. curate.[2]: Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. prelad. [3]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), cerdd rhif 200.35-43. [4]: P. Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003),200-1. | 
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru