Salw yw bod Sul heb Edwart, 
		
	
		 
| AddysgEr bod rhai uchelwyr yn mentro dros y ffin i dderbyn eu haddysg, roedd gan Gymru ei chanolfannau dysg ei hunan yn y cyfnod hwn. 
 Addysgid nifer o Gymry hefyd mewn prifysgolion megis Rhydychen a Paris, yn arbennig wŷr eglwysig a chlerigwyr. Os nad oedd bywoliaeth ar faes y gad yn apelio, yna roedd dilyn cwrs academaidd yn paratoi’r unigolyn at fyd y gyfraith neu’r byd crefyddol. Roedd y cwricwlwm celfyddydau yn yr Oesoedd Canol yn cynnwys y ‘saith gelfyddyd freiniol’, a rannwyd yn ddau grŵp, sef y Trivium a’r Quadrivium, ynghyd â'r ‘tair athroniaeth’: • y Trivium: gramadeg, rhethreg a rhesymeg • y Quadrivium: rhifyddeg, cerddoriaeth, meintoniaeth a seryddiaeth • y ‘tair athroniaeth’: athroniaeth anianol, athroniaeth foesol, a metaffiseg.[3] Roedd canmol gwybodaeth y noddwr yn y meysydd hyn yn awgrymu ei fod yn hynod ddysgedig, er nad oes modd gwybod, yn aml, a ddylid cymryd cyfeiriadau o’r fath yn llythrennol fel tystiolaeth iddo dderbyn addysg prifysgol. Defnyddir y term art yn y farddoniaeth wrth gyfeirio at y saith celfyddyd freiniol a daeth yn derm a ddefnyddid yn gyffredinol wrth ganmol dysg noddwr (cerdd 31.57, cerdd 60.41). Cyfeiriodd Guto’r Glyn at ddysg gelfyddydol Edward ap Dafydd o Fryncunallt gan fanylu’n benodol ar ei wybodaeth o gyfraith sifil ynghyd ag art: 
		Salw yw bod Sul heb Edwart,  
		Sofl yw gwŷr syfyl ac art.  
		Truenus yw bod Sul heb Edward, 
		 sofl yw gwŷr y gyfraith sifil a dysg. Canmolid dysg gwŷr eglwysig hefyd, megis Syr Hywel ap Dai o Laneurgain: 
		Ordr a dysg a roed i’r doeth,  
		Achau hefyd a chyfoeth  
		Ynyr hil, un o’r haelion,  
		Ednywain fry dan un fron.  
		Gradd eglwysig a dysg a roddwyd i’r gŵr doeth,
		 achau hefyd a chyfoeth hil Ynyr, un o’r gwŷr hael, [ac] Ednywain fry islaw un fron. Gwyddom i Ddafydd Cyffin ab Iolyn o Langedwyn fod ym Mhrifysgol Rhydychen. Cafodd yrfa lwyddiannus yno a dyfarnwyd iddo radd Doethur yn y Gyfraith Ganon yn 1454. Mewn cywydd mawl a ganodd i Ddafydd, cyfeiria Guto ato ef, neu at ei hen ewythr, Hywel ap Madog Cyffin, fel doctor, a chanmolir Dafydd fel un a oedd yn wybodus yn y gyfraith ganon (eglwysig) a chyfraith sifil yn ogystal ag yn yr ieithoedd, sef Lladin, Ffrangeg a Saesneg: 
		Llyna eurwr llên eiriau,  
		Llawer o ddysg yn lle’r ddau:  
		Dysgu’r gyfraith a’r ieithoedd  
		A dysgu art ei dasg oedd,  
		A chwynnu sifl a chanon,  
		Chwilio’r hawl a chloi ar hon.  
		Dyna driniwr rhagorol geiriau dysg,
		 mae llawer o ddysg yn lle’r ddau: dysgu’r gyfraith a’r ieithoedd a dysgu celfyddyd oedd ei waith, a chwynnu’r gyfraith sifl a chanon, chwilio’r cwestiwn a phenderfynu arno. Mae Guto yn canmol Morgan ap Rhosier o Wynllŵg fel awdurdod ar bob math o ddoethineb (ym mhob synnwyr) yn ei ateb i gyhuddiad Hywel Dafi ei fod yn wenieithiwr. Meddai: 
		Mae pwys hwn ym mhob synnwyr  
		A phob dilechdyd, Raff ŵyr,  
		Cyfraith a phedeiriaith deg,  
		Awgrym, mydr a gramadeg,  
		Cerddor gyda’r cywirddant,  
		Doeth yw ’ngherdd dafod a thant  
		A mwya’ ystronomïwr:  
		Ym mhob rhyw gamp mae praw gŵr.  
		Mae awdurdod y gŵr hwn ym mhob math o ddoethineb
		 a phob cangen ar ddilechtid, disgynnydd Raff, cyfraith a phedair iaith deg, rhifyddeg, mydryddiaeth a gramadeg, yn gerddor gyda’r cyweirdant, doeth yw mewn cerdd dafod a thant, a’r seryddwr mwyaf: ym mhob math o gamp mae arno brofion gŵr. Mae rhai o’r pynciau hyn yn adlewyrchu’r pynciau ar y cwricwlwm canoloesol. Gramadeg neu Grammatica oedd pwnc cyntaf y Trivium a’r pwnc pwysicaf oll. Mae’n cynnwys mwy na gramadeg yn ystyr ddiweddar y gair, ac yn cofleidio pob agwedd ar lythrennedd, dadansoddi llenyddiaeth, rheolau mydryddol a dadansoddi iaith ffigurol. Roedd cerddoriaeth yn un o bedwar pwnc y Quadrivium, a chyfeirir hefyd at gerdd dafod a thant, yr enwau traddodiadol ar farddoniaeth a cherddoriaeth. Mae’r gyfeiriadaeth at gyweirdant yn dwyn i gof un o’r pedair camp ar hugain gan mai ystyr cyweirdant yw ‘y tant y cyweirir telyn wrtho’.[4] Un arall o bedwar pwnc y Quadrivium oedd seryddiaeth a disgrifir Morgan ap Rhosier fel ystronomïwr hefyd. Bibliography[1]: D. Thomson, ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, Cambridge Medieval Celtic Studies, 3 (1982), 76-80.[2]: A. Parry Owen, ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, Llên Cymru, 33 (2010), 1-31 (16). [3]: R. I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth, 2003) 140-2. [4]: Geiriadur Prifysgol Cymru, Caerdydd (1950-2002), d.g. cyweirdant | 
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru