Caf roddi cyfarwyddyd 
		
	
		 
| Llythrennedd
 Ceir digon o gyfeiriadau gan y beirdd at hoffter eu noddwyr o ddarllen ac o ddysg ysgrifenedig yn gyffredinol. Yn wir, defnyddid y gair ‘llyfr’ yn ffigurol yn y farddoniaeth am ffynhonnell gwybodaeth neu awdurdod ac felly am y noddwr ei hun (gw. cerdd 104.43-4 am ddysg Siôn Trefor, ac am yr ymadrodd aur loywlyfr a ddefnyddia Guto am yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur gw. cerdd 6.14). Mae’r cyfeiriadau at ddarllen llyfrau a thrafod pynciau fel barddoniaeth yn eu tai yn digwydd yn aml. Ochr yn ochr â hyn, pwysleisir yn gyson ddealltwriaeth y noddwr o ieithoedd, yn arbennig Lladin, Saesneg a Ffrangeg. Rhydd Guto’r Glyn ddisgrifiad manwl iawn o’r diwylliant llenyddol a goleddid yn llysoedd un o’i noddwyr yng Nglyn-nedd yn ei awdl foliant i Rys ap Siancyn: 
		Caf roddi cyfarwyddyd  
		Ym, dros ben, am deiroes byd,  
		Brud fal y byriwyd efô,  
		A’r cronigl, eiriau cryno,  
		Buchedd seiniau ni bechynt,  
		Bonedd Owain Gwynedd gynt;  
		Bwrw rhif, ti a’th burawr, Rhys,  
		Brenhinedd bro ein hynys;  
		Dwyn ar fyfyrdod ein dau  
		Drioedd ac ystorïau;  
		Dysgu ym – llyna dasg iawn! –  
		Dalm mawr o odlau Meiriawn;  
		Clybod a gwybod o gwbl  
		Gwawd Cynddelw, gwead ceinddwbl.  
		Fe gaf wybodaeth yn cael ei rhoi
		 i mi, ar ben hynny, am dair oes y byd, hanes Prydain yn union fel y’i lluniwyd, a’r cronicl, geiriau cryno, bucheddau seintiau nad arferent bechu, bonedd Owain Gwynedd gynt; cyfrif nifer, ti a’th fardd, Rhys, brenhinoedd tir ein hynys; dwyn ar gof i ni’n dau drioedd a hanesion; dysgu i mi – dyna dasg deilwng! – gyfran fawr o awdlau Meirion; clywed ac ymgyfarwyddo’n drylwyr â chanu Cynddelw, gwead dwbl hardd. 
 Noddwr arall a oedd yn hoff o ddarllen, yn ôl cerdd ofyn o waith Guto’r Glyn, oedd Faredudd ab Ifan Fychan o Gedewain. Cyfeirir at lyfr brud, sef llyfr a gynhwysai gerddi yn darogan dyfodol gwleidyddol Cymru, mae’n bur debyg: 
		Darllain yng Nghedewain dir  
		Llyfr brud, llafurio brodir.  
		darllen yn ardal Cedewain
		 lyfr brud, llafurio tir y fro. Cyfeirir yn achlysurol at ganu serch hefyd (gw. cerdd 42.48, cerdd 52.51). Lladin oedd prif iaith dysg y cyfnod, ac un o’r beirdd serch Lladin mwyaf adnabyddus oedd Publius Ovidius Naso, a adwaenir fel Ofydd yn y farddoniaeth. Cyfeiriodd Guto at lyfr Ofydd yn llys Dafydd ap Tomas o Flaen-tren. Nid yw’n hollol glir ai llyfr penodol gan y bardd serch Lladin a olygir (megis yr hyn a elwir yn ‘Ars Amatoria’) neu unrhyw lyfr yn ymwneud â serch: 
		 Ac aur trwm ger Tren a gawn heb gynnen  
		52A diolch awen awdl a chywydd,  
		 A llys ar ei lled y lleddir lludded  
		 A lle efrifed a llyfr Ofydd,  
		ac fe gawn aur trwm ger afon Tren yn ddi-ddadl
		 a diolch am awen awdl a chywydd, a llys agored lle gwaredir blinder a lle difesur a llyfr Ofydd, Dichon mai llawysgrif yn cynnwys casgliad o ganu serch a olygir yma. Mae’r cyfeiriad hwn yn codi cwestiwn diddorol sydd hefyd yn berthnasol pan fo’r beirdd yn cyfeirio at ramadeg: ai cymysgedd o Gymraeg a Lladin oedd iaith y llyfrau hyn yn nhai’r uchelwyr? O gofio bod gramadeg yn un o bynciau’r ‘saith gelfyddyd freiniol’ (a’r pwysicaf o bosibl), mae’n bur debyg mai Lladin a olygir, ac nid Cymraeg, pan fo’r beirdd yn cyfeirio at ramadeg. Y pwnc grammatica oedd yr enw canoloesol ar bopeth a gysylltid â dysgu’r iaith Ladin. Heddiw, rydym yn galw’r traethodau ar gerdd dafod Gymraeg a grëwyd yn yr Oesoedd Canol yn ‘Gramadegau’r Penceirddiaid’ ond nid yw’n sicr fod unrhyw un yn y cyfnod ei hun yn arfer y gair gramadeg i’w disgrifio: cerddwriaeth yw’r enw a roddir ar gynnwys y testunau hyn yn y llawysgrifau, os ceir enw o gwbl.[1] Cedwir rhai o’r testunau hyn, yn trafod cerdd dafod Gymraeg, mewn llawysgrifau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif, ac fe’u cysylltir gan amlaf â beirdd megis Einion Offeiriad, Dafydd Ddu o Hiraddug a Gutun Owain [2] Un gramadeg unigryw sydd wedi dod i’r fei yn ddiweddar yw ‘Gramadeg Gwysanau’ a ddyddir i ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg lle trafodir egwyddorion ysgrifennu cerdd a’i throsglwyddiad cywir, gan gynnwys trafodaeth ar orgraff.[3] Soniwyd uchod am bwysigrwydd y tai crefydd fel canolfannau dysg yn y cyfnod hwn; yno hefyd yr oedd y gwaith o gofnodi a chopïo llenyddiaeth yn digwydd. Yr arfer oedd i uchelwyr gomisiynu clerc neu ysgrifydd i lunio llawysgrif. Yn achos Syr Wiliam Herbert I o Raglan, comisiynodd ŵr tramor o’r Iseldiroedd i lunio’r llawysgrif goeth ‘Llyfr Caerdroea’ a’i rhoi yn anrheg i neb llai nag Edward IV ei hun. Cysylltir teulu Siân Bwrch hefyd â llawysgrif bwysig a darddai o orllewin canolbarth Lloegr sef Llawysgrif Clopton. Fe’i comisiynwyd gan ei thad, William Clopton, o bosibl, ac ynddi ceir chwe thestun Saesneg Canol gan gynnwys copi o’r gerdd Piers Plowman, a gyfansoddwyd c.1360-1387.[4] Bibliography[1]: G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934), xli.[2]: G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934), xvii. [3]: A. Parry Owen, ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, Llên Cymru, 33 (2010), 1-31 (6-8). [4]: T. Turville-Petre, ‘The relationship of the Vernon and Clopton manuscript’, yn D. Pearsall (ed.), Studies in the Vernon Manuscript (Woodbridge, 1990), 36. | 
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru