Ni fedrai iarll pan fu drin 
Gemau bwrddGwyddbwyll a sïes Gwyddbwyll yw’r gyntaf o’r gemau bwrdd a restrir ymhlith y ‘bedair camp ar hugain’. Fe’i crybwyllir hefyd mewn chwedlau rhyddiaith cynharach, sef ‘Breuddwyd Maxen’, ‘Breuddwyd Rhonabwy’ a ‘Peredur’, ac yn y farddoniaeth.[1] Ceir yr enghraifft gynharaf o’r gair mewn cerdd o fawl i Guhelyn Fardd (fl. c.1100-c.1130).[2] Bu cryn ddadlau ynglŷn ag union ystyr gwyddbwyll yn yr Oesoedd Canol, ond credir erbyn hyn ei bod yn wahanol i’r wyddbwyll a chwaraeir heddiw ac yn fwy tebyg i dawlbwrdd, a drafodir isod.[3] Roedd y gêm yr ydym yn ei galw’n ‘wyddbwyll’ heddiw, neu ffurf gynnar arni, wedi ei chyflwyno i Loegr yn sgil y Goncwest Normanaidd ac wedi dod yn boblogaidd ym mhob haen o’r gymdeithas erbyn yr Oesoedd Canol diweddar.[4] Ceir y gair sïes, ffurf Gymraeg ar y Saesneg ‘chess’, am y tro cyntaf mewn cerdd o waith Rhys Goch Eryri (c.1365-c.1440). Mae’r ffaith fod sïes yn cael ei chrybwyll mewn rhestr o gampau sydd hefyd yn cynnwys gwyddbwyll yn ategu’r syniad mai dwy gêm wahanol oeddynt.[5] Ceir cyfeiriadau eraill at sïes gan Lewys Glyn Cothi a Ieuan ap Rhydderch, ac mae Hywel Swrdwal yn crybwyll nid yn unig sïes ond hefyd y cyfuniad siec mad sy’n fenthyciad o’r Saesneg ‘check mate’.[6] Tawlbwrdd Fel gwyddbwyll, mae gan dawlbwrdd hanes hir. Fe’i crybwyllir nifer o weithiau mewn testunau cyfraith sy’n dyddio o gyfnod llywodraethwyr annibynnol Cymru - yr oedd, er enghraifft, yn un o’r pethau a roddid gan y brenin i’r ynad llys ac i’r bardd teulu.[7] Chwaraeid tawlbwrdd â ‘brenin ac wyth (neu ddeuddeg) o wŷr ar un ochr yn chwarae yn erbyn un ar bymtheg (neu bedwar ar hugain) o wŷr ar yr ochr arall sy’n ceisio atal y brenin rhag symud’.[8] Er ei bod yn ymddangos bod y termau tawlbwrdd a gwyddbwyll yn gallu cael eu trin yn gyfystyr weithiau erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, mae’r ffaith fod y ddwy yn cael eu cynnwys ar wahân ymhlith y ‘bedair camp ar hugain’ yn dangos eu bod yn cael eu hystyried yma fel gemau gwahanol.[9 Ni cheir cyfeiriad at wyddbwyll na sies gan Guto’r Glyn, ond mae’r cyfeiriad at dawlbwrdd yn ei foliant i Syr Rosier Cinast o'r Cnwcin yn dangos ei fod yn gwybod yn dda am y gêm hon:
Ni fedrai iarll pan fu drin 
Warae cnocell â’r Cnwcin; 
Gwarae a wnaeth ein gŵr nod 
Towlbwrdd gwŷr duon Talbod, 
Gwarae bars â’r Mars y mae, 
Eithr y gŵr aeth â’r gwarae. 
Ni fedrai iarll pan fu’n frwydr
chwarae cis â’r mab o’r Cnwcin; chwarae a wnaeth ein rhyfelwr hynod dawlbwrdd gwŷr duon Talbod, chwarae bars â’r Mers y mae, ond y rhyfelwr a enillodd y gêm. Gellir uniaethu’r chwarae cis a’r chwarae bars yn y darn hwn â gemau cwrt chwarae sy’n boblogaidd gan blant hyd heddiw, a Guto’n eu defnyddio’n drosiadol i ganmol doniau Syr Rosier mewn rhyfel. Trosiadol hefyd yw ei gyfeiriad at dawlbwrdd ac mae’n debyg ei fod yn gysylltiedig â digwyddiad penodol a grybwyllir gan Lewys Glyn Cothi yntau: tawlbwrdd gwŷr duon Talbod, / tros y bwrdd gwnaed Rhys eu bod.[10] Byddai unrhyw fath o gêm fwrdd rhwng dau berson yn cynnig trosiad defnyddiol ar gyfer beirdd, wrth gwrs, wrth iddynt ddisgrifio gwrthdaro neu ryfel. Ystyr drosiadol wahanol sydd i dawlbwrdd mewn cerdd a briodolir i Ddafydd ap Gwilym, sy’n cyffelybu’r sêr i ddarnau’r gêm.[11] Tabler a ffristial Cyfeirir hefyd dabler ym marddoniaeth y cyfnod, sef ffurf gynnar ar ‘backgammon’, neu’r bwrdd a ddefnyddid ar ei chyfer.[12] Fel yn achos y termau eraill am gemau mae peth ansicrwydd am union ystyr y gair a gallai fod wedi cyfeirio at amryw gemau tebyg. Yn yr un modd â ‘backgammon’ heddiw, roedd tabler (a elwid yn table(s) yn Saesneg yn aml) yn cael ei chwarae drwy rolio deis i benderfynu symudiad y darnau ar y bwrdd.[13] Yn ei gerdd i ofyn brigawn (math o arfwisg), mae Guto’r Glyn yn cymharu ei wneuthuriad â thabler:
Dyblwyd ar waith y dabler 
Dyblig o’r sirig a’r sêr; 
dyblwyd gorchudd wedi ei greu o’r sidan a’r sêr
ar lun y dabler; Mae Guto hefyd yn crybwyll y dabler deg yn ei gerdd i ofyn corn hela (gw. isod), a chyfansoddodd Siôn Tudur (bu farw yn 1602) gywydd cyfan i ofyn tabler dros ei noddwr.[14] Fe all mai math o ‘backgammon’ oedd ffristial hefyd, a gynhwysir ymhlith y ‘bedair gamp ar hugain’, er bod ‘disiau’ a ‘blwch disiau’ yn ystyron posibl eraill.[15] Betio Mae Guto’r Glyn yn cyfeirio at dabler, hasard a chard yn ei gywydd i ofyn corn hela ar ran Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun:
Ni chyll arian ychwaneg, 
Nid arfer o’r dabler deg; 
 chroes ni chwery hasard, 
O chair corn ni chwery card. 
nid yw’n colli arian bellach,
nid yw’n gwneud defnydd o’r dabler deg; nid yw’n chwarae hasard â darn o arian, os ceir corn ni bydd yn chwarae gêm gardiau. Un o ystyron y gair Saesneg ‘hazard’, y benthycwyd hasard ohono, oedd gêm a chwaraeid â disiau. Ymddengys fod iddi amrywiol reolau, ond ei phrif egwyddor oedd taflu disiau a chwarae siawns. Mae cyfeiriad Guto at groes mewn perthynas â hasard yn awgrymu darn o arian (yn dangos arwydd y groes), a chrybwyllir gamblo yn fwy uniongyrchol yn y llinell gyntaf a ddyfynnir uchod. Yn y gerdd hon mae’n ymddangos fod Guto’n feirniadol o dabler, hasard a chard - yr awgrym yw y byddai ei noddwr, pe bai’n derbyn y corn hela, yn rhoi’r gorau i’r gemau hyn ac yn troi at weithgareddau mwy buddiol! Er bod gan gemau eu lle anrhydeddus ymhlith y 'bedair camp ar hugain', felly, ac yn rhan o ddiddanwch a rhialtwch cartref uchelwrol, ceir awgrym yma fod y fath chwarae’n gallu mynd yn rhy bell wrth fetio a gamblo..[16] Canodd Lewys Glyn Cothi yntau gywydd mawl i Lewys ab Watcyn lle cyfeirir at hoffter y corff (mewn gwrthgyferbyniad â’r enaid) o chwarae gemau tebyg yng nghartref ei noddwr. Yn ôl Cynfael Lake, ‘synhwyrir bod y ddau fardd yn cynnig beirniadaeth gynnil a gofalus’. .[17]Cyfarwyddir y beirdd yn Statud Gruffudd ap Cynan (1523) i beidio mynd i dafarnau neu i gornelau kuddiedic i chwarrau disiau neu gardiau neu warae arall am dda.[18] Bibliography[1]: M. Hughes, ‘ “A chwaryy di wydbwyll?”: ystyr ac arwyddocâd y gêm “gwyddbwyll” mewn Chwedlau Cymraeg Canol’, Llên Cymru, 32 (2009), 33-57.[2]: J.E.C. Williams, P.I. Lynch ac R. Geraint Gruffydd (goln.), Gwaith Meilyr Brydydd a’i Ddisgynyddion, ynghyd â Dwy Awdl Fawl Ddienw o Ddeheubarth (Caerdydd, 1994), 2.17. [3]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950- ), 1754; Hughes, ‘ “A chwaryy di wydbwyll?” ’. [4]: C. Reeves, Pleasures and Pastimes in Medieval England (Stroud, 1995), 77-9. [5]: D.F. Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), 12.25-8; Hughes, ‘ “A chwaryy di wydbwyll?” ’, 35. [6]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), 208.4; R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth, 2003), 3.110; D.F. Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwal a'i deulu (Aberystwyth, 2000), 11.49-50. [7]: A.R. Wiliam (gol.), Llyfr Iorwerth (Caerdydd, 1960), 10.9, 13.15. [8]: Geiriadur Prifysgol Cymru, 3458, a gw. ymhellach F. Lewis, ‘Gwerin Ffristial a Thawlbwrdd’, The Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1941), 185-205, and Hughes, “ ‘A chwaryy di wydbwyll?’ ”, 35-9. [9]: Hughes, ‘ “A chwaryy di wydbwyll?” ’; 37-8; ‘Dafydd ap Gwilym.net’161.69n. [10: Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, 104.49-50, a gw. y nodiadau am gerdd Guto (79.51-2n). [11]: ‘Dafydd ap Gwilym.net’, 161.69; awgryma H.M. Edwards, ‘Ar Drywydd y Cywyddwyr Cynnar: Golwg Newydd ar Gywydd y Sêr’, Dwned, 16 (2010), 11-49, y gall mai Llywelyn Goch ap Meurig Hen a ganodd y cywydd hwn. [12]: Geiriadur Prifysgol Cymru, 3404. [13]: ‘The Oxford English Dictionary’ [14]: E. Roberts (gol.), Gwaith Siôn Tudur (2 gyf., Caerdydd, 1980), cerdd rhif 112. [15]: Geiriadur Prifysgol Cymru, 1315, a gw. hefyd ‘Dafydd ap Gwilym.net’, 161.69n. [16]: Lake 1996: 98. [17]: Lake 1996:97 [18]: J.H. Davies, ‘The Roll of the Caerwys Eisteddfod of 1523’, Transactions of the Liverpool Welsh National Society (1904-5), 87-102 (97). |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru