Pob gorchest, ben-fforestwr, 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
Campau corfforolRhestrir deg o gampau corfforol ymhlith y 'pedair camp ar hugain'. Roedd chwech yn cael eu galw’n gampau o rym corff, sef cryfder, rhedeg, neidio, nofio, ymafael a marchogaeth, a’r pedair arall yn gampau o rym arfau, sef saethu, chwarae cleddyf a bwcled, chwarae cleddau deuddwr a chwarae ffon ddwybig.[1] Yn ogystal â’u rôl fel gweithgareddau hamdden gallai campau o’r math fod o ddefnydd ymarferol, er enghraifft wrth hela, mewn rhyfel neu ar gyfer hunanamddiffyn. Yn ei gywydd i ofyn cyllell hela gan Gruffudd ap Rhys o Iâl mae Guto’r Glyn yn crybwyll neidio, rhedeg a marchogaeth, a’r rheini’n sgiliau sy’n ymddangos yn briodol iawn mewn perthynas â gwaith Gruffudd fel fforestwr:
Pob gorchest, ben-fforestwr, 
A wnâi dy gorff, annwyd gŵr: 
Neitio, rhedeg, naid rhydain, 
Gyrru meirch dros gaerau main. 
Pob gorchest, prif fforestwr,
a wnâi dy gorff, anian gŵr: neidio naid carw ifanc a rhedeg, gyrru meirch dros gaerau cerrig. Gallai beirdd, hefyd, feistroli campau tebyg - rhestrir nifer ohonynt gan gynnwys saethu a marchogaeth yng ‘Nghywydd y Bost’ Ieuan ap Rhydderch.[2] Yn yr un modd, mewn cyfres o englynion ansicr ei hawduraeth dywedir bod Tudur Aled yn feistr ar amryw gampau:
Ymafel a wnaud, ymofyn – bar traws 
A bwrw trosol celyn 
Neu faen llwyth, nofio ’n y llyn, 
16Neitio, rhedeg, naid tridyn. 
Byddet yn ymaflyd codwm, yn ymofyn bar cadarn
a thaflu trosol o bren celyn neu faen trwm, nofio yn y llyn, neidio, rhedeg, naid tri dyn. Taflu maen a throsol Roedd taflu - bwrw - maen trwm neu drosol (bar) yn gemau poblogaidd yn amser Guto, a barnu o’r cyfeiriadau yn ei gerddi ef a rhai ei gydoeswyr. Er nad ydynt yn cael eu henwi’n benodol yn rhestr y ‘pedair camp ar hugain’, gellid eu hystyried fel dull o ddangos cryfder, sef y gamp gyntaf oll. Yn ei farwnad i Hywel ab Owain o Lanbryn-mair, dywed Guto:
Nid â maen un damunwr 
Mawr uwch gwynt ym mreichiau gŵr. 
Ni thry mab nac athro maith 
Drosolion a droes eilwaith. 
Bellach ni hed maen mawr unrhyw gystadleuwr
uwchlaw’r gwynt ym mreichiau gŵr glew. Ni fydd mab na hyfforddwr profiadol yn trin eilwaith y trosolion a daflodd ef. Mae Guto’n crybwyll y ddwy gamp hyn eto yn ei farwnad i Harri Gruffudd o Gwrtnewydd, ynghyd â neidio a saethu (cerdd 36.43-8). Mewn cywydd cynharach a ganodd i Harri ceir awgrym fod merched yn mwynhau gwylio campau o’r fath, ac â Guto ymlaen i ddweud ei fod ef ei hun wedi rhagori wrth fwrw maen yn y gorffennol:
Och ym er dir a chymell 
O bu ŵr â bwa well, 
Na chystal, ynial annerch, 
Ar y maen mawr er mwyn merch. 
I minnau, gwarau gwiwraen, 
Y bu air mawr er bwrw maen; 
Hiroedl a fo i Harri 
Y sydd i’m diswyddaw i! 
Boed gwae i mi drwy drais a gorfodaeth
os bu erioed ddyn gwell gyda bwa, neu un cystal (araith rymus) gyda maen mawr er mwyn merch. I minnau, chwarae graenus iawn, y bu clod mawr am fwrw maen; boed oes hir i Harri sy’n fy nisodli i! Cyfeiriodd Gutun Owain yntau at Guto fel pencampwr ar daflu meini, yn ei farwnad iddo (cerdd 126.15-18), a chrybwyllir campau Guto hefyd yn y cerddi ymryson rhyngddo a Dafydd ab Edmwnd: cerdd 68a.15-18, cerdd 68b, cerdd 68.42). Saethu Mae Guto yn crybwyll sgiliau Harri Gruffudd wrth saethu bwa mewn dwy gerdd wahanol (gw. ‘Taflu maen a throsol’, uchod). Roedd saethu targedau a hela â bwa yn weithgareddau poblogaidd ymhlith yr uchelwyr a cheir nifer o gyfeiriadau yn y farddoniaeth at sgiliau noddwyr, a beirdd, gyda bwa. Gallai abad, hyd yn oed, gael ei ganmol fel saethydd cryf a medrus, megis gan Gutun Owain mewn cerdd i Ddafydd, abad Glyn-y-goes: ’Oes wyth o’r bobl a saetho / A blyka i vwa yvo? [3] Gw. ymhellach Maes y gad: arfau: bwâu a saethau. Tennis Er bod tennis ar ei wedd gynnar neu ‘tennis real’ yn fwyaf cysylltiedig â chyfnod y Tuduriaid ceir y gair tennis yn Saesneg mor gynnar â dechrau’r bymthegfed ganrif - y cyfeiriad cynharaf a nodir yn ‘The Oxford English Dictionary’ yw un John Gower, tua 1400.[4] Tardd y gêm o Ffrainc: fe'i gelwid yn jeu de paume neu ‘gêm cledr y llaw’ gan fynaich yn y ddeuddegfed ganrif. Y dull gwreiddiol, felly, oedd taro’r bêl â chledr y llaw, a deunydd y bêl yn y cyfnod hwn oedd croen dafad wedi ei stwffio â blawd llif neu wlân.[5] Chwaraeid yn yr awyr agored yn ogystal ag mewn cwrt caeedig, ac erbyn cyfnod Harri VIII daethai'n gêm hynod o boblogaidd ymysg y bonedd. Cyfeiriodd Guto'r Glyn at y gêm hon yn ei gerdd i Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron ac mae’n debyg mai’r syniad y tu ôl i’r ddelwedd yw bod y bêl, sy’n cynrychioli clod, yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng bardd a’i noddwr:
Gwarae mae y gŵr a’i medd 
Tenis â chlod dwy Wynedd. 
Mae’r gŵr sy’n meddu arni
yn chwarae tenis â mawl y ddwy Wynedd. Bibliography[1]: H. Lewis, T. Roberts ac I. Williams (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (ail arg., Caer¬dydd, 1937), 387.[2]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth, 2003), cerdd rhif 3. [3]: E. Bachellery (éd.), L’oeuvre poétique de Gutun Owain (Paris, 1950-1), XXIV.33-4, a gw. hefyd gerdd XXVIII. [4]: ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. tennis, n. [5]: A. Hart-Davis, What the Tudors and Stuarts did for us (London, 2002), 111. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru