Mewn môr y myn ym orwedd, 
MentyllGwisg allanol a wisgid dros yr ysgwyddau yw mantell ac yn y bymthegfed ganrif, gwisgid gwahanol fathau o fentyll at wahanol ddibenion. Roeddynt yn amrywio cryn dipyn o ran siâp, maint, lliw a defnydd a rhai enwau a ddefnyddiai Guto am wisg fel mantell yw llen, clog, mantell, cwnsallt, simwr, ffaling a pilis. Nid yw’n gwbl eglur os yw’r beirdd yn gwahaniaethu o ran enwau eitemau o ddillad fel mantell, ond mae’n bur debyg mai clogyn teithiol a feddylia Guto gan amlaf wrth gyfeirio at glog a simwr. Roedd rhaid cael mantell drom a chynnes i deithio ym mhob tywydd a mae’n debyg iawn fod y beirdd yn derbyn mentyll fel hyn gan eu noddwyr. Gwisg felly oedd y fantell Wyddeling neu’r ffaling a dderbyniodd y bardd gan Elen ferch Robert Pilstwn (cerdd 53). Gall mantell olygu gwisg fwy urddasol a wisgid gan uchelwyr ac uchelwragedd ar achlysuron arbennig i ddynodi eu statws. Roedd mentyll felly yn cynnwys ymylwe o frodwaith neu leinin o ffwr a weithiau addurnid hwy â phatrwm herodrol a oedd yn nodweddiadol o’r cyfnod hwn.
Gan fod rhoddion o ddillad yn gyffredin iawn rhwng beirdd a noddwyr sonnir weithiau am fantell neu wisg arbennig a gafodd rhai beirdd yng ngherddi ei gilydd. Mae’r menig a gafodd Dafydd ap Gwilym gan Ifor Hael yn cael eu crybwyll ar sawl achlysur (‘Dafydd ap Gwilym.net’, cerdd 15) ac mae Ieuan ap Hywel Swrdwal yn sôn am fantell arbennig a gafodd Guto’r Glyn gan Syr Rhisiart Gethin, milwr proffesiynol a ymladdai yn Ffrainc gyda byddinoedd Lloegr yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Mae’n debyg fod y ddau wedi cwrdd pan fu Guto yntau yn gwasanaethu fel milwr yn Ffrainc. Cywydd i ddiolch i Rhisiart ar ran Guto yw’r gerdd a disgrifir yr hug aur fel Mantell Mihangel felyn / y sy glog eos y glyn.[3] Weithiau, mae gwisg o’r fath yn destun cenfigen mewn cerddi hwyliog, megis y fantell arian neu’r hug o liw, rhywiog len a gafodd Tudur Penllyn ac a wisgodd i ddwyn cariad ei gyd-fardd, Ieuan Brydydd Hir.[4] A thybed ai cenfigen am wisg a gafodd Guto’r Glyn gan un o’i noddwyr sydd wrth wraidd honiad Guto fod Llywelyn ap Gutun eisiau ei glog?
Mewn môr y myn ym orwedd, 
Mae’n chwannog i’m clog a’m cledd; 
Ef a’m crogai, ni wnâi nâd, 
Yn Rhosyr er fy nhrwsiad; 
mae’n dymuno i mi orwedd mewn môr,
mae’n awchus am fy nghlogyn a’m cledd; ef a’m crogai yn Rhosyr am fy ngwisg, ni roddai gri; Y ffaling, cerdd 53 Cafodd Guto ddilledyn arbennig gan un o’i noddwyr: mantell allanol fawr a thrwchus a elwir yn ffaling. Elen ferch Robert Pilstwn] o’r Llannerch a roddodd y rhodd hwn iddo, a hynny, mae’n debyg, ar ôl iddo ganu cerdd yn gofyn amdani. Mae’n bosibl fod hon yn gerdd a ddatganwyd yn Llannerch, Llŷn, mewn gwledd i ddathlu’r Nadolig neu’r Calan gan fod anrhegu bardd â dilledyn fel calennig yn gyffredin iawn yn y cyfnod hwn (gw. cerdd 53.31). Mae’n hawdd casglu bod y fantell Wyddelig yn boblogaidd iawn yng Nghymru yn ystod y bymthegfed ganrif gan ei bod yn un o’r prif wisgoedd a erchir fel rhodd gan feirdd y cyfnod.[5] Nid Guto’r Glyn yw’r unig fardd i dderbyn ffaling yn rhodd gan ei noddwr; ceir cerddi hefyd gan rai o’i gyd-feirdd megis Lewys Glyn Cothi a Ieuan Du’r Bilwg. Mae gyfres o englynion a briodolir i Guto’r Glyn mewn rhai llawysgrifau (cerdd 122) hefyd yn sôn am ffaling. Yn yr englynion hyn, anogir bardd o’r enw Rhys Grythor i ofyn am fantell gan yr Abad Dafydd o Abaty Maenan ac mae’r disgrifiad o’r fantell fel un trwchus a gwlanog yn cyfateb i’r disgrifiadau eraill a geir gan y beirdd o’r ffaling (cerdd 122.27-28). Meddir yn englyn olaf y gyfres:
Cai doryn batsler cadeiriog, – cai glwyd 
Rhag annwyd rhew gwnnog, 
Cai win gwyn llei cân y gog, 
32Cai ffaling, drwyn cyffylog. 
Cei glogyn baetsler cadeiriog, cei gysgod
rhag annwyd rhew yn nannedd y gwynt, cei win gwyn lle mae’r gog yn canu, cei ffaling, ŵr a chanddo drwyn cyffylog. Gellir cael darlun manwl iawn o’r ffaling wrth graffu ar ddisgrifiadau’r beirdd a’r pwyslais a roddant ar ei chynhesrwydd, ei maint, ei lliw coch a’i hymylon addurnedig. Disgrifir hi gan Guto fel cwrlid o sgarlad a phwysleisir ei lliw coch: lliw pais draig, lliw criafon a lliw egroes (44, 60, 58 a 52). Mae planhigion aeron coch yn amlwg iawn yn ei ddisgrifiad ac wrth iddo sôn hefyd am y cerwyni lliw, sef y tybiau a ddefnyddid i lifo, mae’n bosibl ei fod yn awgrymu’r math o blanhigion a ddefnyddid i liwio tecstiliau yn goch yn y cyfnod hwn.
Canmolir hefyd trwch a maint y fantell ynghyd â’r ffris tebyg i ffwr ar ei hymylon. Mae’r geiriau gra, saffrymwallt ffris, pân a’r disgrifiadau clog o fwng ceiliog a dail rhos yw dwyael fy rhodd oll yn cyfeirio at hyn. Darlunnir y Gwyddelod yn gwisgo’r ffaling gan arlunwyr o’r unfed ganrif ar bymtheg ac mae’r ymylon o ffris trwchus i’w gweld yn amlwg. Daeth hi’n wisg a oedd yn cael ei chyfrif yn draddodiadol Wyddelig. O’r herwydd, ceisiodd y Saeson wahardd y Gwyddelod rhag ei gwisgo gan fynnu ei bod yn wisg a hybai hunaniaeth y Gwyddelod a’i bod felly’n fygythiad i’r Saeson. Ond mae’n amlwg nad effeithiodd hynny lawer ar boblogrwydd y fantell a phrawf y darganfyddiadau archaeolegol i’r mentyll barhau’n boblogaidd yn Waterford, Dulyn a Drogheda yn bennaf.[6] Ceir cofnodion hefyd yn nodi i longau Gwyddelig allforio’r mentyll a theithio i Loegr, ac efallai i rai o borthladdoedd gorllewinol Cymru megis Llŷn fel yr awgryma’r bardd yn y gerdd hon (cerdd 53.35-8).[7] Cyfeiria Guto ddwywaith at y llong a ddaeth â’r fantell gan nodi mai cynnyrch y diwydiant gwlân Gwyddelig oedd hi:
Gwyddel a ddug i Elen 
We o wlân lliw ar lun llen; 
Dewis oedd, wedi’u dwys wau, 
Ar longaid o ffalingau. 
Daeth Gwyddel â brethyn gwlanog lliwgar
ar ffurf mantell i Elen; hi oedd y fwyaf dewisol o blith llongaid o fentyll Gwyddelig wedi eu gwau’n dynn. Roedd yn gôt ddelfrydol i fardd crwydrol wrth iddo deithio o lys un noddwr i’r llall. Am lun o Guto’r Glyn yn gwisgo’r fantell arbennig hon, gw. yr Animeiddiad o Gochwillan. Bibliography[1]: F. Piponnier & P. Mane, Dress in the Middle Ages (Yale, 1997), 132.[2]: P. Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003), 260 [3]: D.F.Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwal a’i deulu (Aberystwyth, 2000), 24.53-4. [4]: M. P. Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan Brydydd Hir (Aberystwyth, 2000), cerdd rhif 3. [5]: Ymhellach ar y fantell Wyddelig gw. A.M. Jones, ‘“Val y Gwydel am y Ffalling”: Beirdd y Bymthegfed Ganrif a’r Fantell Wyddelig’, Llên Cymru, 32 (2009), 85-100. [6]: T. O’Neill, Merchants and Mariners in Medieval Ireland (Dublin, 1987), 69-70 [7]: B. B. Thomas, Braslun o Hanes Economaidd Cymru (Caerdydd, 1941), 55. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru