Yng Ngwynedd yr eisteddych 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
PenwisgoeddDaeth y benwisg yn adnodd pwysig i gwblhau gwisg uchelwyr ac uchelwragedd. Gwisgid capiau llydan gan ddynion, ac arbrofid cryn dipyn â’r hyn a wisgai’r merched am eu pennau. Gwelwyd y chaperon yn cael ei wisgo gan ddynion am y tro cyntaf yn Ffrainc tua’r flwyddyn 1420; cap ac arno ymyl trwchus a darn o ddefnydd yn disgyn o’r corun hyd at yr ysgwyddau. Daethai'r gair capan i olygu penwisg erbyn y cyfnod hwn. Noda Guto fod Sieffrai Cyffin yn gwisgo capan wedi ei wneud i gyd o ffwr:
Yng Ngwynedd yr eisteddych 
O fewn coiff ar y Fainc wych; 
Dwyn pân i’th gapan i gyd, 
Dwyn hwf yn Llundain hefyd. 
Yng Ngwynedd yr eisteddi
mewn coiff ar y Fainc wych; gwisgo ffwr yn dy gap i gyd, gwisgo hwf yn Llundain hefyd. Penwisgoedd tynn am y pen oedd y coiff a hwf. Gwisgid y coiff gan bob dosbarth cymdeithasol ond awgryma Guto’r Glyn fod Sieffrai Cyffin yn gwisgo’r coiff fel math o wisg a wisgid mewn llys barn. Mae’n debyg i’r coiff ddod yn rhan o lifrai unigolion a ddaliai swyddi pwysig o dan y goron yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol: ‘At a later date it was also a distinctive feature of the head-dress of doctors of medicine, doctors and officers of the law, and ecclesiastical dignitaries, who wore it during the Medieval Period, the sixteenth and seventeenth century’.[1] Un o’r ystyron a roddir i’r gair yw: ‘A white cap formerly worn by lawyers as a distincitve mark of their profession’.[2]
Roedd merched y cyfnod yn hoff iawn o addurno eu pennau a’u gwalltiau; rhai ohonynt â phenwisgoedd eithafol iawn. Ceir llu o gyfeiriadau ym marddoniaeth y cyfnod at wallt merched, yn enwedig yn y Canu Serch, ac yn achlysurol fe ddisgrifir y benwisg hefyd, gw. 'Dafydd ap Gwilym.net' cerdd rhif 156, 'Penwisg Merch', sydd o bosib yn waith Dafydd ap Gwilym. Gellir dychmygu bod rhai o’r penwisgoedd hyn yn hynod o anghyfforddus i’w gwisgo. Delwedd a ddefnyddia Guto i ddisgrifio to ar adeilad yw penwisg wedi ei gwasgu:
Gwe a rof uwch y gaer fau, 
Gwisg ei phen, gwasg â phinnau, 
Gosodaf we uwchben fy nghaer,
gwisg ei phen, gwasgfa â phinnau, Ceid amrywiaeth helaeth o benwisgoedd i ferched erbyn 30au'r bymthegfed ganrif.[3]O benwisgoedd seml fel y rhai wedi eu rholio i greu cylch o amgylch y pen i rai llawer mwy anghyffredin o ran siap, roedd gwisgo penwisg yn angenrheidiol ac yn bwysicach nac unrhyw eitem arall.[4] Mae nifer o gorffddelwau o gyfnod Guto yn dangos rhai penwisgoedd a oedd yn boblogaidd gan ferched, llawer ohonynt yn amlygu statws uchel y sawl a goffeid fel gwraig i uchelwr neu farchog.[5] Bibliography[1]: H. Norris, Medieval Costume and Fashion (Dover, 1998), 177.[2]: 'The Oxford English Dictionary', s.v. coive. [3]: I. Brooke, English Costume from the Early Middle Ages Through the Sixteenth Century (New York, 2000). 140. [4]: I. Brooke, English Costume from the Early Middle Ages Through the Sixteenth Century (New York, 2000), 144. [5]: Ymhellach gw. A.M. Edwards, ''Pen un wisg â'r paun o'r ne'!': Penwisgoedd Merched yn y Canu Serch', Dwned 19 (2013), 39-58. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru