Mae yno i ddyn mwyn a ddêl 
Cypyrddau
Defnyddid cypyrddau, cistiau a choffrau mewn tai neuadd i gadw mân eitemau fel lliain i’r byrddau, llestri a bwyd. Byddai’r rhain gan amlaf yn cael eu comisiynu gan noddwr a’u cynhyrchu gan saer lleol. Addurnid hwy â gwaith cerfio cain yn cynnwys patrymau a delweddau herodrol a daethant i gynrychioli cyfoeth a statws y perchennog. Mae Cochwillan yn cael ei ddisgrifio gan Guto’r Glyn fel tŷ wedi ei ddodrefnu yn y modd mwyaf addas i ŵr o statws:
Mae yno i ddyn mwyn a ddêl 
Fwrdd a chwpwrdd a chapel 
A gwych allor Gwchwillan 
Ac aelwyd teg i gael tân; 
Mae i ddyn mwyn a ddaw yno
fwrdd a chwpwrdd a chapel ac allor wych Cochwillan ac aelwyd deg i gael tân; Awgrymir ymhellach gan Guto’r Glyn fod gan Sieffrai Cyffin gwpwrdd i gadw nwyddau yn ei neuadd ef yng nghastell Croesoswallt:
Ni bu gwpwrd y gwrda, 
Ni bydd un dydd, heb win da; 
Ni bu cwpwrdd y gŵr bonheddig,
ni bydd un dydd, heb win da; Gair a ddefnyddir am gwpwrdd yw almari sy’n air benthyg o’r Saesneg Canol almarie, sef ‘cwpwrdd, cell, cloer’.[1] Ni cheir cerdd gan Guto sy’n rhoi disgrifiad o almari, ond canodd Dafydd Trefor, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gywydd i ofyn almari gan Wiliam ap Maredudd ap Rhys o Lanfairfechan dros Ddafydd ap Gwilym.[2] Daw’n amlwg yn y cywydd hwnnw mai cwpwrdd ar gyfer cadw bwyd a diod (o afael llygod!) oedd ei almari ef. Mae rhai cypyrddau wedi goroesi o’r cyfnod Tuduraidd yng Nghymru, a’r un mwyaf nodweddiadol efallai yw’r un a gysylltir ag un o noddwyr Guto’r Glyn, Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd.[3] Bibliography[1]: ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. aumbry, n.²[2]: Rh. Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2006), 7. [3]: R. Bebb, Welsh furniture, 1250-1950: a cultural history of craftsmanship and design, Vol. 1 (Aberystywth, 2007), 161-2. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru