Gwely ares goleurym 
Gwelyau
Y tai mawr yn unig oedd â digon o le ynghyd â’r cyfoeth i gael gwelyau i westeion. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd cael ystafell gysgu yn beth prin iawn. Cysgu ar lawr y neuadd ar wellt a blancedi o wlân a wnaed. Hyd yn oed erbyn y bymthegfed ganrif, roedd yr arfer hwn yn parhau yn y tai bychain a’r uchelwyr cyfoethog oedd yr unig rai â’r cyfoeth i brynu neu i gomisiynu gwelyau sylweddol. Weithiau, fodd bynnag, mae’r beirdd yn cyfeirio at welyau yn nhai eu noddwyr i gyfleu’r moethusrwydd eithaf. Yn yr un modd ag yr oedd bwyd yn symbol o gynhaliaeth, daeth gwely yn symbol o letygarwch y noddwr, rhywbeth angenrheidiol i feirdd crwydrol y bymthegfed ganrif. Yn eu disgrifiadau o welyau y cyfnod hwn tueddai’r beirdd i ganmol y tecstiliau drudfawr a’r carthenni ar y gwelyau, fel y gwely hwnnw yng Nghochwillan a ddisgrifir gan Guto’r Glyn sydd wedi ei addurno â thapestri o Arras:
Gwely ares goleurym 
A siambr deg sy’n barod ym. 
Mae gwely ares disglair a chadarn
ac ystafell deg yn barod ar fy nghyfer i. Mae gan Lewys Glyn Cothi gywydd i ofyn am wely gan bedair gwraig a hwnnw’n wely moethus wedi ei wneud o’r tecstiliau mwyaf drudfawr.[1] Mae’n amlwg wrth y disgrifiad gan Lewys Glyn Cothi, a disgrifiad Guto o’r gwely Arras yng Nghochwillan, nad y gwaith pren oedd yn rhagori yn y bymthegfed ganrif ond y tecstiliau (ymhellach gw. Gwisgoedd: Tecstiliau). Ategir hyn mewn cywydd arall gan Lewys Glyn Cothi sy’n gofyn am huling gwely gan ei disgrifio’n debyg iawn i dapestri.[2] Ar y cyfan, prin yw’r enghreifftiau o welyau o Gymru yn y cyfnod hwn ond dengys yr ychydig enghreifftiau o fframiau gwelyau o’r unfed ganrif ar bymtheg fod crefftwaith y gwaith pren yn hynod o gain. Fe’u haddurnid â ffigurau a phatrymau o fewn y pren, fel gwely Abermarlais (c.1507) a oedd yn perthyn i Syr Rhys ap Tomas.[3] Bibliography[1]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), cerdd rhif 186.[2]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), cerdd rhif 277. [3]: Gw. ymhellach R. Bebb, Welsh Furniture, 1250-1950: a Cultural History of Craftsmanship and Design, Vol. 1. (Aberystywth, 2007), 173, 177. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru