Brau gig, bara gwyn a bragod brigwyn 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
Bara
Rhan o luniaeth sylfaenol unrhyw un yn y bymthegfed ganrif oedd bara ac fe’i gweinid gyda phob pryd bwyd. Roedd bara yn cynnwys y maeth angenrheidiol ynghyd â’r gallu i lenwi rhywun yn dda, ac roedd y ffaith ei fod ar gael drwy’r flwyddyn hefyd yn ei wneud yn un o’r bwydydd mwyaf defnyddiol. Yn ôl Gerallt Gymro, nid oedd y Cymry cynnar yn bwyta llawer o fara, ond mewn gwirionedd mae digon o dystiolaeth iddynt fwyta pob math o fara.[1] Daeth y gair ‘bara’ i olygu ‘cynhaliaeth’ yn gyffredinol yn y farddoniaeth wrth i’r beirdd yn aml nodi fod noddwr wedi rhoi bara iddynt, hynny yw, eu noddi a’u cynnal. Daeth hefyd yn air i’w ddefnyddio er mwyn pwysleisio’n gryno fod y noddwr yn darparu gwleddoedd yn ei lys. Dywedodd Guto am ei noddwr, Rhisiart Cyffin, fod y gost i gyd yn mynd ar fara a gwin (cerdd 108.6). Manylir hefyd yn y farddoniaeth ar y math o fara a gâi’r beirdd yng ngwleddoedd eu noddwyr ac mae’n amlwg fod rhai mathau o fara yn fwy drud a maethlon ac felly’n ddantaith yng ngolwg y beirdd. Y bara drutaf yn yr Oesoedd Canol oedd bara gwyn. Rhestrir bara gwyn ymysg danteithion eraill gan Guto yn ei foliant i Ddafydd ap Tomas ap Dafydd o Flaen-tren:
Brau gig, bara gwyn a bragod brigwyn 
A pherwaith gwenyn a ffrwyth gwinwydd. 
cig tyner, bara gwyn a bragod â phen gwyn
a chynnyrch pêr gwenyn a ffrwyth gwinwydd. Caiff y bara gwyn ei alw’n gyson yn fara can yn y farddoniaeth, sef cyfeiriad at liw gwyn y blawd a ddefnyddid i wneud bara gwyn. Edrychid ar y bara hwn fel bara purach oherwydd purdeb y blawd gwenith gwyn a ddefnyddid i’w wneud.[2] Yn y farddoniaeth gall can gynrychioli’r bara hwn; Ei gan a’i fedd a gawn fyrdd ‘Caiff llu ohonom ei fara gwyn a’i fedd’ (cerdd 8.9) meddai Guto’r Glyn yn ei awdl foliant i’r Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur, a nododd hefyd sut yr oedd yn caru’r can a’r cwrw a’r cig ‘mynnu’r bara gwyn, y cwrw a’r cig’ (cerdd 102.10) oedd ar gael yn helaeth yng Nghroesoswallt yn y bymthegfed ganrif. Cafodd gan a rhost faeth ‘bara gwyn a bwyd wedi ei rostio’ (cerdd 15.31) gan Rys ap Siancyn o Lyn-nedd, a cheir cwyn ganddo am ddiffyg y bara hwn yn ei ddychan i Syr Rhys:
Na thola dy dda’n ddyun, 
N’ad dim o hwn yt dy hun, 
Ac oni chawn gan a chig 
A chwrw nid ai’n iach orig!’ 
paid â chynilo dy gyfoeth yn eiddgar,
paid â gadael dim o’r cyfoeth hwn i ti dy hun, ac oni chawn fara gwyn a chig a chwrw ni welli am ennyd!’ Mae’r ymryson hwn rhwng Guto’r Glyn a Syr Rhys yn hynod ddiddorol gan fod cywydd dychan Syr Rhys i Guto’r Glyn ac yntau gartref yn glaf y Nadolig (cerdd 101a), ynghyd â’r ateb i ddychan Syr Rhys gan Guto (cerdd 101), yn trafod gwahanol fathau o fara - o’r bara gwyn gorau i’r bara plaen diflas - a’u gwerth maethlon. Syr Rhys a ganodd ei ddychangan i Guto yn gyntaf. Meddai:
Fwrw ei gost ar fara gwyn; 
Bara rhyg a bawr a’r haidd, 
Bara disyml, bwrdeisiaidd. 
Guto, er ysgwrio’i gau, 
A gny penial gnopennau. 
ar fara gwyn gyda darn o gaws;
mae’n pori ar fara rhyg ac ar fara haidd, bara plaen, bwrdeisiaidd. Mae Guto’n cnoi darnau o fara gwenith er mwyn carthu ei goluddion. Mae’n amlwg fod Guto’n dioddef o ryw salwch a’r hyn a ddywed Syr Rhys yw bod Guto’n cnoi penial gnepynnau, sef darnau o fara wedi’u gwneud o flawd gwenith ac a ystyrid yn llesol. Nid ystyrid bara rhyg, sef bara wedi’i wneud o flawd rhyg, yn llesol. Yn wir, defnyddid y bara hwnnw i borthi anifeiliaid; felly hefyd y bara haidd, sef bara wedi ei wneud o barlys neu fath o ŷd coliog.[3] Defnyddid ei rawn mewn blawd i wneud bara a ystyrid yn israddol. Bibliography[1]: R. Richards, Cymru’r Oesau Canol (Wrecsam,1933), 367.[2]: T. Scully, The Art of Cookery in the Middle Ages (Woodbridge, 1995), 36; A. Hagen, Anglo-Saxon food and drink: production, processing, distribution and consumption (Oxford, 2006), 9; C.A. Wilson, Food and Drink in Britain from the Stone Age to Recent Times (London, 1973), 237-55; A.T. Lucas, ‘Irish Food Before the Potato’, Gwerin (1960), 3, 8-43. [3]: A. Hagen, Anglo-Saxon food and drink: production, processing, distribution and consumption (Oxford, 2006), 12. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru