Mor hael uwchben dy aelwyd 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
SbeisysEnwir sbeisys poeth o wledydd y dwyrain a’r Cyfandir yn y farddoniaeth o’r bymthegfed ganrif ymlaen.[1] Nid cynnyrch lleol, rhad, mohonynt, ond bwydydd wedi eu mewnforio a’u gwerthu mewn marchnadoedd a ffeiriau.
Hysbysa’r cofnodion o Loegr mai sbeis eithaf rhad oedd pupur ac iddo gael ei fewnforio i Brydain o gyfnod cynnar iawn. Mae’n un o’r sbeisys a grybwyllir yng Nghyfraith Hywel Dda ac roedd yn un o brif gynhwysion y cogydd erbyn y bymthegfed ganrif, fel yr awgryma Guto wrth iddo ganmol y bwydydd yn Aberpergwm gan ei noddwr Rhys ap Siancyn:
Mor hael uwchben dy aelwyd 
O’th bob rhyw fudd a’th bypr fwyd! 
mor hael uwchben dy aelwyd
o ran dy ffafr o bob math a’th fwyd a baratowyd â phupur! A hefyd yn ei ddisgrifiad o’r bwydydd yng ngwledd Sieffrai Cyffin yng nghastell Croesoswallt:
Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai 
O fewn siaffr a fyn Sieffrai. 
pob math o fwyd mewn pupur a fo
mewn padell dân a fyn Sieffrai. Cyfeirir at liw du’r pupur yn y gerdd foliant i wallt du Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd:
Sidan a phupr, os adwaen, 
Y sabl oll y sy o’u blaen. 
sidan a phupur, os wyf i’n gwybod hyn yn iawn,
maent i gyd yn dwyn y lliw sabl o’u blaen. Ceir cyfeiriad at siwgr hefyd gan Guto’r Glyn wrth iddo ddisgrifio’r darpariaeth fel gorau siwgr a gwresogwin yng ngwledd Siân Bwrch yn y Drefrudd (cerdd 81.48). Yn y cyfnod hwn gwasgerid siwgr ar bob math o fwydydd, yn aml i guddio’r blas chwerw a oedd ar rai, megis cigoedd, llysiau a bara. Fel pupur, roedd siwgr ar gael yn Lloegr ers o leiaf y ddeuddegfed ganrif pan oedd yn gynnyrch prin a danteithiol. Erbyn y bymthegfed ganrif fe’i mewnforid mewn llwythi llawer mwy. Diddorol yw’r gymhariaeth rhwng moliant y ferch anhysbys o’r enw Gwladus o Lyn-nedd a’r hyn a elwir yn siwgr candi. Meddai Guto’r Glyn:
Ei moliant oedd siwgr candi, 
A mêl haid oedd ei mawl hi. 
Ei moliant oedd siwgr candi,
a mêl yr haid oedd ei mawl hi. Mae’n bosibl mai’r hyn a feddylir gan siwgr candi yw siwgr wedi ei ailferwi a’i adael i grisialu. Daeth yr enw’n gyffredin gan mai o Candia, sef yr enw hynafol ar Ynys Creta yng Ngroeg y mewnforid llawer o siwgr yn y cyfnod hwn.[2] Enwir sbeisys mwy egsotig hefyd gan Guto’r Glyn mewn un gerdd, sef yn ei foliant i Sieffrai Cyffin a’i wraig Siân yng nghastell Croesoswallt:
Sinsir a felir ar fwyd 
A graens da rhag yr annwyd, 
Sinamwm, clows a chwmin, 
Suwgr, mas i wresogi’r min; 
Sinsir a felir ar fwyd
a grawn da rhag yr annwyd, sinamon, clows a chwmin, siwgr, mas i gynhesu’r gwefusau; Roedd hi’n beth eithaf cyffredin enwi sbeisys poeth o wledydd y dwyrain a’r Cyfandir yn y farddoniaeth erbyn y bymthegfed ganrif, a gwelir hyn yn cynyddu erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg. Tebyg iawn i restr Guto’r Glyn o ddanteithion castell Croesoswallt yw’r rhestr o ddanteithion yng nghywydd moliant Lewys Glyn Cothi i Ieuan ap Lewys a Thangwystl: Canel o Ffrainc a unwyd, pupur a fewn pob rhyw fwyd, saffrwm, mas hoff o’r meysydd, a graens gardd, ac orains gwŷdd, sugr candi i mi ’mhob modd, sinser ar ddewis ansodd, sinamwm, almwns, cwmin, balsamẃm yw blas ’y min.[3] Sbeisys yw saffrwm, sinsir, sinamwn, cwmin, clows a mas a chnau yw almwns. Ymddengys fod sbeisys fel cwmin a saffrwm wedi eu mewnforio i Lundain mor gynnar â’r ddeuddegfed ganrif. Erbyn y bymthegfed ganrif roedd digonedd ar gael yn Lloegr ac yng Nghymru, ac awgryma’r dystiolaeth lenyddol eu bod yn cael eu defnyddio yng nghartrefi uchelwyr Cymreig hefyd. Nid oedd prynu ychydig o sinamwn, er enghraifft, yn ddrud iawn ac oherwydd blas cryf rhai o’r sbeisys hyn, roedd ychydig ohonynt yn ddigon. Rhoddid pwyslais ar yr amrywiaeth yn hytrach nag ar faint a ddefnyddid. Gwyddom yn dda am y cynhwysion hyn mewn cartrefi yn Lloegr gan fod cyfrifon cartref rhai stadau wedi goroesi. Enwir hwy hefyd mewn ambell i gastell yng Nghymru, megis yng nghyfrifon castell Rhaglan.[4] Credid hefyd fod sbeisys fel hyn yn dda i’r corff. Felly hefyd y perlysiau a ddefnyddid i wneud sawsiau. Un o englynion mwyaf trawiadol y bwrdd bwyd yn y cyfnod hwn yw’r englyn gan Ieuan ap Rhydderch sy’n disgrifio cynhwysion saws gwyrdd a oedd yn cynnwys perlysiau megis mint, persli a ‘chives’ neu gennin syfi (seifs): Saws glas ym mhob plas paliswydr—hyd Fôn: Pricmaed, finegr yn rhëydr, Seifs, pernel, persli, pelydr, Suran, ditans, afans hydr.[5] Bibliography[1]: Ymhellach gw. A.M. Edwards, ‘“Food and wine for all the world”: Food and Drink in Fifteenth-century Poetry’, yn D.F. Evans, B.J. Lewis ac A. Parry Owen (goln), Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013).[2]: P. Brears, Cooking & dining in medieval England (Totnes, 2008), 343. [3]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), 88.41-48. [4]: A.M. Edwards, ‘“Food and wine for all the world”: Food and Drink in Fifteenth-century Poetry’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013).00 [5]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth, 2003), cerdd 11. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru