Ni bu oraens, neu beren, 
Llysiau a ffrwythauRoedd argaeledd llysiau a ffrwythau yn dibynnu’n helaeth ar yr adeg o’r flwyddyn yn y bymthegfed ganrif. Ond amrywia’r agwedd tuag at wahanol lysiau yn arbennig gan y cysylltid nifer ohonynt â dosbarth is o fewn y gymdeithas. Yn ychwanegol at hynny, cysylltid rhai llysiau ag arferion anweddus a daeth cyfeirio at y llysiau hyn (megis cennin, bresych a phys) wrth wneud hwyl am ben unigolyn mewn cerddi dychan yn boblogaidd iawn gan y beirdd.[1] Mae’r amrywiaeth o ffrwythau a ddarperid yng ngwledd y noddwr yn cael ei grybwyll yn achlysurol gan Guto’r Glyn. Yn y wledd a dderbyniodd gan Siân Bwrch yn y Drefrudd cafodd bob math o ffrwythau:
Ni bu oraens, neu beren, 
Na ffrwyth, llysieuyn na phren, 
Ni bu irllwyth ar berllan, 
Na chnau ar wŷdd na chawn ran. 
nid oedd oren na gellygen,
na ffrwyth o unrhyw blanhigyn neu goeden, na llwyth ir o unrhyw berllan, na chnau ar goed na chefais ran ohono. Dau o’r ffrwythau hyn oedd orenau a pheren, sef gellyg.[2] Roedd orenau yn cael eu mewnforio i Loegr ers o leiaf y bedwaredd ganrif ar ddeg a thyfid gellyg ac afalau yn niferus ddigon yng Nghymru erbyn y cyfnod hwn. Derbyniodd Guto’r Glyn fil ancwyn afalau ‘fil o wleddoedd afalau’ (cerdd 113.24) yn abaty Glyn-y-groes gan yr Abad Dafydd ab Ieuan, a chan ei fod hefyd yn cyfeirio at arddau a pherllannau (cerdd 113.25-6), gellir tybio mai o dir yr abaty ei hun y cafwyd yr afalau hyn. Roedd afalau a gellyg wedi eu coginio yn boblogaidd iawn i’w gweini ym mhryd olaf y wledd, weithiau wedi eu rhostio neu eu berwi mewn gwin a sbeisys. Ceid amrywiaethau o wahanol afalau a gellyg yn y cyfnod hwn, rhai llai poblogaidd heddiw, megis yr afal crab (math o afal bach sur)[3] a warden (math o ellyg i’w goginio).[4] Defnyddir y ddau fath yn drosiadol gan Guto’r Glyn i ganmol ei noddwyr. Yn ei foliant i Ddafydd Llwyd ap Gruffudd o Abertanad gwelir y bardd yn defnyddio trosiadau afalau gan eu hymestyn i bwysleisio noddwr rhagorol:
Fal crab wrth afal croywber 
Fydd rhai o’r gwledydd i’r glêr; 
Afal pêr Gweurful heb ball 
(Afal sur oedd flas arall), 
Afal Gruffudd fal griffwn 
O goed da ef a gad hwn. 
Fel crab mewn cymhariaeth ag afal clir a melys
fydd rhai o’r broydd i’r glêr; afal pêr, diball Gweurful (sur oedd blas afal arall), afal Gruffudd fel griffwn o goed da y daeth hwn. Wrth erfyn ar Dduw i sicrhau fod gan Ddafydd ap Meurig Fychan ddisgynyddion i barhau’r llinach yn Nannau, meddai:
A gad, Duw, hil o goed hwn 
Yn wyrda fal pren wardwn. 
a gad, Duw, i ddisgynyddion o goed y dyn hwn
fod yn wyrda fel coed gellyg. Digon cyffredin yw cyfeirio at gadernid llinach fel planhigion neu goed yn y farddoniaeth, neu i bwysleisio bod y noddwr yn un arbennig ymhlith eraill, fel y noda Guto’r Glyn yn ei foliant i Dafydd Llwyd ap Gruffudd o Abertanad a’i alw yn bwmpa, sef math o afal mawr:
Pwmpa ar wyrda yw’r un, 
Pwngarned, penaig arnun’. 
Pwmpa a phwngarned ymhlith gwŷr bonheddig
yw’r un gŵr, pennaeth arnynt. Fel crab mewn cymhariaeth ag afal clir a melys Roedd y pwmpa yn ffrwyth caled iawn oddi mewn ond yn feddal ar y tu allan ac felly’n drosiad gwych i ganmol gŵr a oedd yn hynaws ond yn gadarn a chaled ar yr un pryd.[5] Cyfeirir hefyd at ffrwyth arall o’r enw pwngarned yn y dyfyniad uchod, sef benthyciad o’r Saesneg ‘pomegranate’, ffrwyth tebyg i oren yn allanol ac iddo groen caled yn cynnwys pwlp coch llawn hadau.[6] Roedd hwn hefyd yn drosiad addas gan fod yr hadau oddi mewn yn pwysleisio bod y noddwr yn ŵr ffrwythlon. Defnyddid nifer o lysiau, perlysiau a sbeisys mewn moddion ac at wahanol ddibenion i iachau’r corff yn y cyfnod hwn a cheir eglurhad ar eu rhinweddau mewn llawysgrifau Cymraeg o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen, ymhellach gw. Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425. Bibliography[1]: Ymhellach ar y Canu Dychan a bwyd gw. A.M. Edwards, “Food and wine for all the world”: Food and Drink in Fifteenth-century Poetry’, yn D.F. Evans, B.J. Lewis ac A. Parry Owen (goln), Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013).[2]: Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. pêr². [3]: ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. crab, n². [4]: ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. warden, n². [5]: Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. pwmpa. [6]: ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. pomegranate. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru