Llyn perffaith fal llun pwrffil, 
		
	
		 
| Brodwaith
 Roedd gwaith brodio ar wisgoedd yn ddigon cyffredin, yn enwedig ar ddwbledi a mentyll a wisgid gan uchelwyr. Er na wyddom yn union faint o’r gwaith hwn oedd yn cael ei wneud yng Nghymru ei hun - dichon mai mewnforio gwisgoedd ac arnynt frodwaith yn barod a wnâi’r uchelwyr mwyaf cefnog - ceir ambell i gyfeiriad gan y beirdd fod gwragedd yn arbennig yn hoff o frodio.[1] Yn wir, mae hoffter y beirdd o gymharu gwaith brodio a gwehyddu â’u crefft eu hunain o lunio barddoniaeth yn awgrymu eu bod yn ddigon cyfarwydd â’r grefft o frodio ar ddefnydd.[2] Mae’r beirdd hefyd yn hoff iawn o ddefnyddio termau am waith brodio i ddelweddu pethau eraill. Defnyddir y gair pwrffil gan Iolo Goch i ddisgrifio aradr; ystyr pwrffil yw godreon mantell a oedd yn cynnwys brodwaith cain.[3] Defnyddir yr un gair gan Guto’r Glyn wrth ddisgrifio tŷ Syr Siôn Mechain yn Llandrinio, meddai: 
		Llyn perffaith fal llun pwrffil,  
		Llys o’i fewn, lle iso i fil,  
		Llys daear ynys Drunio,  
		Llys i holl Bowys lle bo.  
		Llyn perffaith fel ffurf godre gwisg,
		 llys o’i fewn, lle isod i fil o bobl, llys daear bro Trunio, llys i Bowys gyfan lle y mae. Yr hyn a olygir yw fod y tŷ yn werth ei weld, fel llun wedi ei frodio ar ymylwe dilledyn. Mae’n amlwg fod y pyrsau a dderbyniodd Guto gan Risiart Cyffin a Chatrin ferch Maredudd o Abertanad hefyd yn cynnwys tipyn o frodwaith arnynt. Dywed am y pwrs gan Rhisiart Cyffin: 
		Alwar mawr o liwiau’r main  
		Nis brodiai Ynys Brydain,  
		Ysgrepan o sidan Siêb  
		Â sinobl dros ei wyneb,  
		alwar mawr o liwiau’r gleiniau
		 na allai neb yn Ynys Prydain ei brodio, ysgrepan wedi ei gwneud o sidan o Siêp a chanddi liw gloywgoch dros ei hwyneb, Ac mae hefyd yn cyfeirio at frodwaith aur ar y pwrs (cerdd 58.40). Awgrymir ymhellach gan Guto, Nis brodiai Ynys Brydain, mai pwrs wedi ei fewnforio ydyw. Felly hefyd y pwrs gan Gatrin; meddai: 
		Pwrs hywerth, Paris wead,  
		Prennol aur nis prynai’r wlad.  
		pwrs gwerthfawr, gweadwaith o Baris,
		 cas aur na allai’r fro gyfan ei brynu. Defnyddir y ddelwedd tyrau goldwir i ddisgrifio’r pwrs hwn (cerdd 87.53), hynny yw, mae’r edau aur ar y pwrs fel tyrau. Roedd pyrsau ac arnynt frodwaith fel hyn yn boblogaidd iawn yn Ffrainc ac roedd trefi fel Paris a Chaen yng ngogledd Ffrainc yn enwog am eu cynhyrchu. Ond mae Guto hefyd yn awgrymu bod Catrin ei hun wedi rhoi brodwaith ar y pwrs. Meddai: 
		Amner yw hwn mewn aur rhudd  
		A frodies merch Faredudd,  
		Calennig haul y waneg,  
		Catrin, dwf caterwen deg.  
		Amner yw hwn a frodiodd merch Maredudd
		 mewn aur coch, calennig gan haul y pryd a’r gwedd, Catrin, twf derwen fawr deg. Ac ymhellach: 
		Adafedd, lloer Dafydd Llwyd,  
		A droes Dyfr ar draws deufrwyd.  
		Dirwynodd Dyfr edafedd ar draws
		 dau ffrâm frodio, lloer Dafydd Llwyd. Mae’n bosibl mai mai llun o rosyn aur oedd un o’r delweddau a frodiwyd ar y pwrs wrth i Guto nodi Mae rhos aur ar fy mhwrs i ‘mae llun o rosod aur ar fy mhwrs i’ (cerdd 87.48). Meddai Haycock ‘Brodiwyd y pwrs gan Gatrin ei hun: eitemau mân fel clustogau, pyrsau, coleri a gwregysau a lunnid gartref yn bennaf erbyn y bymthegfed ganrif’.[4] Bibliography[1]: Gw. e.e. Rh. Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005), 11.27 a’r nodyn esboniadol, a R. Geuter, 'The silver hand: needlework in early modern Wales’, yn M. Roberts & S. Clarke (eds), Women and Gender in Early Modern Wales, (Cardiff, 2000), 159-85.[2]: M. Haycock, ‘Defnydd hyd ddydd brawd: rhai agweddau ar y ferch ym marddoniaeth yr oesoedd canol’, yn G.H. Jenkins (ed.), Cymru a’r Cymry 2000 (Aberystwyth, 2001), 41-70. [3]: D.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), 28.61. [4]: M. Haycock, ‘Defnydd Hyd Ddydd Brawd: rhai agweddau ar Ferched ym Marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, Cymru a’r Cymry 2000 (Aberystwyth, 2001), 55. | 
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru