Y melfed (pwy nis credai?), 
![Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif Cymru Guto Bywyd bardd yng Nghymru'r bymthegfed ganrif](lluniau/craidd/cymru_guto_cy.png)
MelfedRoedd melfed yn gymhleth i'w wehyddu ac o’r herwydd yn ddrud iawn i'w brynu yn y bymthegfed ganrif. Yn wahanol i sidan, roedd yn fwy caled a thew. Defnydd cymharol newydd ydoedd yn ôl tystiolaeth y farddoniaeth; nid oes sôn amdano yng ngherddi’r Tywysogion neu’r chwedlau brodorol fel yn achos sidan. Nid yw’n syndod felly fod melfed yn cael ei gysylltu’n aml ag uchelwyr yn y farddoniaeth. Yn wir, roedd modd llunio dillad trawiadol eu lliwiau o felfed, a chan fod ei ansawdd yn galetach, roedd yn berffaith i lunio’r dwbledi stiff a’r sircynau tynn hynny a oedd yn boblogaidd yn y cyfnod hwn (gw. Gwisgoedd: Eitemau o ddillad). Roedd melfed ynghyd â sidan ar y pwrs a gafodd Guto’r Glyn gan Gatrin ferch Meredudd a Dafydd o Abertanad; fe ddisgrifir y pwrs fel Yr em aelfain o’r melfed ‘a roddodd drysor wedi’i greu o’r defnydd melfed’ (cerdd 87.69). Mae Guto’n cyfeirio’n benodol at felfed a sidan lliw du:
Y melfed (pwy nis credai?), 
Muchudd du fydd a di-fai; 
Sidan a phupr, os adwaen, 
Y sabl oll y sy o’u blaen. 
Felfed (pwy na chredai hyn?),
muchudd hefyd fydd yn ddu a dilychwin; sidan a phupur, os wyf i’n gwybod hyn yn iawn, maent i gyd yn dwyn y lliw sabl o’u blaen. Yn niwedd y bymthegfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, daeth y lliw du yn hynod o ffasiynol i’w wisgo gan yr uchelwyr. Er bod y lliwiau traddodiadol fel coch, porffor, glas a gwyrdd o hyd yn boblogaidd, roedd cyfeirio at ddillad du yn fodd o bwysleisio hoffter y noddwr o ddilyn y datblygiadau diweddaraf. Wrth edrych ar ewyllysiau o Gymru’r unfed ganrif ar bymtheg, roedd sidan, damasg a melfed du yn ddigon niferus ymysg yr eitemau a roddid i aelodau o’r teulu. <<<Sidan >>>Du o Lir |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru