Elen deg o Lëyn dir: 
		
	
		 
| FfwrAddurnid gwisgoedd â ffwr, boed ar ymyl y wisg neu fel leinin, a daeth hyn yn arwydd gweledol o statws uchelwrol. Y gair a welir am ffwr yn y farddoniaeth gan amlaf yw gra, sef gair a ddaw o’r Saesneg gris (neu o’r Hen Ffrangeg), ‘a type of grey fur’.[1] Fodd bynnag, daeth i olygu ffwr yn gyffredinol erbyn y bymthegfed ganrif. Roedd ffwr gwyn yn arbennig o ddrud gan nad oedd mor gyffredin â hynny, yn enwedig ffwr wedi ei wneud o gôt aeafol y carlwm neu o ffwr mynfyr. Roedd ffwr gwyn yn cael ei ddefnyddio yn arbennig i addurno ymylon gynau merched. Mae Guto’r Glyn yn disgrifio Elen ferch Robert Pilstwn mewn gwisg wedi ei haddurno â ffwr gwyn: 
		Elen deg o Lëyn dir:  
		Gwraig, oedd yn gwisgo gra gwyn,  
		Gruffudd, ben-llywydd Llëyn.  
		Elen deg o ardal Llŷn:
		 gwraig i Ruffudd prif lywydd Llŷn a wisgai ffwr gwyn. Darlunnir menywod a dynion yn gwisgo dillad wedi eu leinio â ffwr gwyn er mwyn dangos eu bod o statws uchel mewn delweddau cyfoes o lawysgrifau. Roedd ffwr hefyd yn nodi gwisg o fewn rhyw swyddogaeth arbennig, yn enwedig capiau ffwr neu pân, gw. Penwisgoedd. <<<Damasg >>>Brodwaith | 
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru