Da lliwiwyd y du llawen, 
		
	
		 
| Du o lirYn sgil poblogrwydd y lliw du, daeth brethyn wedi ei fewnforio o ddinas Lierre ym Mrabant yn hynod o boblogaidd. Gelwir y brethyn hwn yn du o Lir neu blac o Lir yn y farddoniaeth (sy’n fenthyciad o’r Saesneg ‘Black-a-lyre’).[1] Daeth yn boblogaidd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen gan fod y ddinas honno ym Mrabant yn enwog am gynhyrchu pob math o frethyn cain (nid du yn unig). Defnyddir y cyfeiriadau at ddu o Lir fel arfer i gymharu gwrthrychau eraill a oedd yn ddu iawn. Mae Guto, er enghraifft, yn cymharu gwallt Dafydd Cyffin fel brethyn o Liere: 
		Da lliwiwyd y du llawen,  
		Du o lir yw, da ei lên.  
		Da y lliwiwyd y gŵr du llawen,
		 du fel brethyn o Liere yw, da ei ddysg. A hefyd gwallt a gwisg Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd: 
		Y du hydr o’r Deheudir,  
		Da ei lun mewn du o lir,  
		Llew du fal dy ddillad wyd,  
		Lliw nid êl llai no dulwyd!  
		O ddyn dewr du ei wallt o dir de Cymru,
		 da ei olwg mewn dillad a wnaed o ddu o lir, llew du wyt ti fel dy ddillad, na foed i’r lliw fynd yn oleuach na dulwyd! <<<Melfed >>>Damasg | 
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru